Jones, Huw (g.1948)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Gadawodd Huw Jones ei ôl ym maes cerddoriaeth boblogaidd gyfoes Gymraeg fel canwr, cyfansoddwr, cyflwynydd a sylfaenydd label. Cafodd ei eni ym Manceinion yn 1948, ond roedd ei deulu’n hanu o ardal Meirionnydd ac fe’i magwyd yng Nghaerdydd. Astudiodd Ffrangeg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, ond cadwodd gysylltiadau agos â’r byd pop a oedd yn graddol ddatblygu yng Nghymru erbyn diwedd yr 1960au, gan ddychwelyd yno ar benwythnosau i ganu caneuon mewn arddull acwstig mewn cyngherddau. Roedd ymhlith yr artistiaid a chwaraeodd yn yr ŵyl bop Gymraeg gyntaf, y Pinaclau Pop, ym Mhontrhydfendigaid yn 1968.

Daeth i amlygrwydd yn fuan wedi hyn, ac ym mis Hydref 1968, rhyddhaodd ei EP gyntaf, Cymru’n Canu Pop (Welsh Teldisc, 1968). Erbyn 1969, fodd bynnag, roedd ef a Dafydd Iwan wedi penderfynu mynd ati i sefydlu label annibynnol newydd, sef Cwmni Sain. Ar gyfer record gyntaf y label aeth Huw Jones i stiwdio broffesiynol Central Sound yn Llundain, gyda Meic Stevens a Heather Jones yn cyfeilio.

Y canlyniad oedd ‘Dŵr’ - cân brotest rymus sy’n mynegi gwrthwynebiad i foddi Capel Celyn. Fe’i rhyddhawyd fel sengl ym mis Hydref 1969. Gyda chymorth un o fideos cerddoriaeth bop cyntaf y Gymraeg – un a ffilmiwyd ar lannau Llyn Celyn – aeth y sengl, gyda’i threfniant cyfoethog (dyma’r gân gyntaf yn y Gymraeg i’w recordio ar beiriant amldrac) a’i chlawr seicedelig, i frig Deg Uchaf siart Y Cymro, gan sefydlu Sain fel cwmni mentrus (am hanes recordio’r gân, gw. Wyn 2002, 144–45). Roedd sengl arall, ‘Paid Digalonni’ (Sain, 1970), yn llwyddiannus hefyd; cafodd ei rhyddhau’n frysiog fel teyrnged i Dafydd Iwan, a oedd yn y carchar ar y pryd yn dilyn un o brotestiadau Cymdeithas yr Iaith, ac fe’i canodd tu allan i furiau carchar Caerdydd.

Cyn hir, ehangodd Huw Jones ei orwelion yn y byd cyfryngol. O 1970 hyd 1973 bu’n cyflwyno’r gyfres bop Disc a Dawn, gan ddiddanu gwylwyr gyda’i arddull gyflwyno ffraeth a phroffesiynol. Disgrifiwyd ei EP nesaf ar label Sain, Daw Dydd y Bydd Mawr y Rhai Bychain (Sain, 1972), gan un o adolygwyr y cylchgrawn Sŵn fel ‘record berffaith’; ynghyd â’r gân deitl roedd hefyd yn cynnwys deuawd gyda Heather Jones ar ‘Ble’r Aeth yr Haul’, a gyfansoddwyd gan Dewi ‘Pws’ Morris. Sengl fwyaf llwyddiannus Huw Jones o’r cyfnod hwn oedd y gân ddychan hwyliog ‘Dwi Isio Bod Yn Sais’ (Sain, 1973), a fu ar frig Deg Uchaf Y Cymro am chwe mis gan werthu oddeutu 8,000 o gopïau (Wallis a Malm 1983, 88–90).

Ar ôl rhyddhau ei unig record hir, Adlais (Sain, 1976), rhoddodd Huw Jones y gorau i ganu a recordio er mwyn canolbwyntio ar fyd busnes. Parhaodd fel rheolwr gweithredol Sain hyd 1981 ac wedi hynny, yn dilyn sefydlu S4C yn 1982, roedd yn un o sylfaenwyr Teledu’r Tir Glas - y cwmni teledu annibynnol Cymraeg cyntaf - a chwmni adnoddau teledu Barcud yng Nghaernarfon. Bu’n gadeirydd Barcud hyd at 1993. Ers hynny, bu ganddo gyfrifoldebau amrywiol eraill yn y diwydiant cyfryngol gan gynnwys Prif Weithredwr S4C (1994–2005), cadeirydd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, a chadeirydd S4C (2011–19).

Efallai na fu Huw Jones mor gynhyrchiol â rhai o’i gyfoeswyr, ond mae graen ac ôl meddwl yn perthyn i’w recordiadau. Tra’r oedd Dafydd Iwan yn fwy parod i herio’r Cymry am eu hapathi ynglŷn â pharhad yr iaith Gymraeg, roedd agwedd Huw Jones o bosibl yn fwy cynnil, ac roedd yn grefftus yn y modd y llwyddai i gysylltu’r arddull bop newydd gyda thraddodiadau cerddorol a diwylliannol hŷn. O’r cychwyn, roedd ganddo genhadaeth glir i godi safon y byd pop Cymraeg, ac roedd mynnu agwedd broffesiynol tuag at y gwaith o gynhyrchu recordiau yn rhan ganolog o hynny.

Craig Owen Jones

Disgyddiaeth

  • Cymru’n Canu Pop [EP] (Welsh Teldisc PYC5436, 1968)
  • ‘Y Ffoadur’/‘Dewch i Ganu (La, La, La)’ [sengl] (Welsh Teldisc WD912, 1969)
  • ‘Dŵr’/‘Fy Ngwlad Fy Hun’ [sengl] (Sain 1, 1969)
  • ‘Atgofion Llofft Stabal’ (Recordiau Tŷ Ar Y Graig TAG LP 1003, 1970)
  • ‘Paid Digalonni’/‘Ffoi’ [sengl] (Sain 3, 1970)
  • ‘Gwylliaid Cochion Mawddwy’ [sengl] (Sain 9, 1970)
  • Daw Dydd y Bydd Mawr y Rhai Bychain [EP] (Sain 21, 1971)
  • Dwi Isio Bod Yn Sais [EP] (Sain 33, 1973)

Llyfryddiaeth

  • Roger Wallis a Krister Malm, ‘Sain Cymru: The Role of the Welsh Phonographic Industry in the Development of a Welsh Language Pop/Rock/Folk Scene’, Popular Music, 3 (1983), 77–105
  • Hefin Wyn, Be Bop a Lula’r Delyn Aur (Talybont, 2002)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.