Jones, R. M. (Bobi)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

R. M. (Bobi) Jones (1929 - ) yw’r llenor mwyaf toreithiog a welodd yr iaith Gymraeg erioed. Ef hefyd yw’n beirniad llenyddol mwyaf cynhyrchiol. Mae cyfanswm ei gyhoeddiadau yn ffenomen ynddi’i hun. Cyhoeddodd gyfres o gyfrolau ym maes theori a beirniadaeth lenyddol, ac mae wedi bod mor gynhyrchiol ag erioed yn ystod ei nawfed degawd, gan fachu ym mhotensial y cyfrwng electronig ac ymroi i gyhoeddi cyfrolau ar-lein (www.rmjones-bobijones.net]). Ond er bod swmp ei waith yn siarad cyfrolau am ei egni ac ymroddiad yn y maes hwn, ei sylwedd a’i wreiddioldeb sy’n ei wneud yn feirniad pwysig a heriol.

Disgrifiodd Simon Brooks ef unwaith fel y ‘meddyliwr mwyaf diddorol yng Nghymru’. Nid rhyfedd hynny efallai o ystyried yr amryw ddylanwadau ffurfiannol ac anghyffredin a fu arno: ei fagwraeth ddi-Gymraeg; ei dröedigaeth Gristnogol; a’i gefndir academaidd ym myd ieitheg a seico-mecaneg iaith yn ogystal ag ym myd llên. Ef yn sicr yw un o’r mwyaf blaengar a gwreiddiol o’n beirniaid llenyddol ac yn un o’r cyntaf i fentro i fyd (anffasiynol ar y pryd) theori lenyddol. Nid dilynwr ffasiynau mohono: er enghraifft, roedd o flaen ei amser yn cymhwyso theorïau ieithyddol i faes llenyddiaeth ddechrau’r 1970au cyn i’r math hwnnw o drafodaeth ddod i amlygrwydd ymhlith beirniaid Eingl-Americanaidd, ac ef oedd un o’r beirniaid mwyaf llym a llafar ar yr ôl-foderniaeth a ddaeth yn ffasiwn yn y byd llenyddol Cymraeg erbyn y 1990au.

Bobi Jones hefyd yw un o’n beirniaid mwyaf uchelgeisiol a chynhwysfawr ei weledigaeth. Bu’n ymroi’n ymwybodol gydol ei yrfa academaidd i fenter arloesol mewn beirniadaeth lenyddol. Math o brosiect beirniadol estynedig oedd hwn â’r nod o fapio a disgrifio paramedrau beirniadaeth lenyddol. ‘Beirniadaeth Gyfansawdd’ yw’r enw a roddodd ar y fframwaith hwn ac mewn cyfrol o’r un enw a gyhoeddodd yn 2003 mae’n egluro sut y mae pob un o’i aml gyfrolau yn rhan o’r ymgais hir-dymor hon i ddatblygu beirniadaeth lenyddol o safbwynt theoretig penodol a’i diffinio’n ddisgyblaeth. Ond er amlder y cyfrolau gellid crynhoi’r fframwaith neu’r map a gyflwynir ynddynt o dan dri phen twt:


Tafod

Dyma’r wedd gyntaf ac anweledig ar iaith. Daeth Bobi Jones i gyswllt â’r cysyniad hwn o du ieithyddiaeth, ac yn bennaf trwy waith yr ieithydd pur astrus, Gustave Guillaume (1883–1960), y daeth o dan ei ddylanwad tra oedd yn astudio ym Mhrifysgol Laval, Quebéc yn 1964. Hanfod y cysyniad hwn yn syml iawn yw bod dwy wedd ar iaith – y potensial a’r diriaethol. Hynny yw, nid yr un peth yw iaith yn y pen a’r hyn a welir yn yr amlwg. Mae cyfundrefn ieithyddol yn yr ymennydd (Tafod) sy’n caniatáu ffurfio’r iaith a welir yn yr amlwg (Mynegiant). Poblogeiddiwyd y syniadau hyn gan Ferdinand Saussure a’i fyfyrwyr ym Mharis cyn Guillaume, ond cyfraniad unigryw Guillaume i faes seico-mecaneg iaith oedd astudio’r modd roedd y ddau gyflwr hyn yn rhyngweithio’n ddeinamig: dangosodd nad cyflyrau statig ar wahân oedd Tafod a Mynegiant gan fod symudiad o’r naill safle meddyliol i’r llall.

Trosglwyddodd Bobi Jones y theori hon i fyd llenyddiaeth, gan ddadlau bod gan y llenor yntau ei Dafod cuddiedig – math o ramadeg llenyddol. ‘Tafod y Llenor’ yw’r enw a roddodd ar y ffenomen hon a chyhoeddodd gyfrol o’r un enw yn 1974. Dadleuodd fod y meddwl yn llunio ac yn storio ffurfiau a patrymau llenyddol sy’n dod yn gynhysgaeth i lenorion eraill maes o law. Amlygir hyn orau, meddai, mewn mydr, odl a chynghanedd gan ei bod hi’n amlwg bod yr egwyddor o odl neu gynghanedd yn bodoli yn y meddwl y tu hwnt i enghreifftiau unigol ohonynt. Mae Tafod yn cynnwys Deunydd y llenor yn ogystal â Ffurf. Dadleua Bobi Jones y gellir dosbarthu Deunydd iaith yn ôl pedwar maes:

i. Fi (Seicolegol)

ii. Cyd-ddyn (Cymdeithasegol)

iii. Yr Amgylchfyd (Ecolegol)

iv. Duw (Goruwchnaturiol)

Canolbwyntiodd ar archwilio dau o’r feysydd hyn yn ei weithiau cyhoeddedig, sef y wedd ar gyd-ddyn sy’n ymwneud â threfedigaethedd ac imperialaeth, e.e. yn Ysbryd y Cwlwm: Delwedd y Genedl yn ein Llenyddiaeth (1998), ac ar agweddau ar berthynas dynion a Duw, e.e. yn Cyfriniaeth Gymraeg (1994).


Mynegiant

Dyma lenyddiaeth orffenedig, ddiriaethol – pen draw’r broses lenyddol. Hon yw’r wedd fwyaf diddorol a byw ar lenyddiaeth, lle yr amlygir holl botensial cyfundrefnau caeth Tafod. Hon hefyd yw’r wedd amlwg a chyfarwydd ar lenyddiaeth. O’r herwydd dyma’r ffurf ar lenyddiaeth y trafododd Bobi Jones leiaf arni o safbwynt theoretig. Dadleuodd nad oes modd llunio theorïau neu systemau twt yn ei chylch gan ei bod yn gwbl ddiderfyn ei phosibiliadau. Serch hynny, mae Bobi Jones wedi creu corff sylweddol o feirniadaeth Mynegiant ei hun, sef y gweithiau beirniadol hynny a gyhoeddwyd mewn cyfrolau megis I’r Arch (1959), Llenyddiaeth Gymraeg 1936-1972 (1975) a Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936 (1987). Gellid dadlau mai’r enghreifftiau hyn o feirniadaeth Mynegiant yw’r gweithiau beirniadol mwyaf hygyrch a luniwyd ganddo. Bydd y sawl nad yw’n gallu dirnad neu gyd-fynd â’i theorïau beirniadol yn siŵr o allu gwerthfawrogi ffresni, bywiogrwydd a gwybodaeth eang a manwl y gweithiau hyn.


Cymhelliad

Y bont neu’r cyswllt deinamig rhwng y ddau gyflwr uchod yw Cymhelliad, sef y reddf waelodol sydd gan y ddynoliaeth i ddarganfod neu osod trefn ar iaith. Y reddf hon sy’n ysgogi’r llenor i droi potensial Tafod yn Fynegiant llenyddol.

Gwelir gwreiddiau’r cysyniad hwn mewn dau faes a ddylanwadodd yn drwm ar Bobi Jones: ieithyddiaeth a diwinyddiaeth. Nodwyd uchod fod Guillaume wedi pwysleisio’r berthynas ddeinamig rhwng Tafod a Mynegiant a’r symud sydd rhwng y naill gyflwr a’r llall. Hynny yw, mae’r weithred o greu iaith yn digwydd rhywle rhwng Tafod a Mynegiant. Y drydedd wedd hon – sef y weithred ddeinamig a chydlynol o greu – a arweiniodd Bobi Jones i’r casgliad mai triphlyg oedd paramedrau ei feirniadaeth lenyddol.

Ond trodd Bobi Jones at ddiwinyddiaeth – ac yn benodol at feddylwyr Prifysgol Rydd Amsterdam, ac athrofeydd Diwinyddol Westminster yn yr Unol Daleithiau – er mwyn rhoi cnawd am esgyrn y cysyniad hwn. Pwysleisiai’r diwinyddion hyn sofraniaeth a phenarglwyddiaeth Duw ar bob agwedd ar fywyd. Cymhwysodd Bobi Jones y syniadaeth hon i’r weithred lenyddol. Defnyddiodd ddau orchymyn Beiblaidd er mwyn egluro pam y mae’r ddynoliaeth yn ymroi i lenydda o gwbl. Mae’r cyntaf i’w weld yn llyfr Genesis ac mae’n crynhoi un agwedd ar bwrpas bywyd dyn ar y ddaear: ‘Bendithiodd Duw hwy a dweud, “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy’n ymlusgo ar y ddaear”’ (Genesis 1:28). Dyma’r gorchymyn i ddynion ddiwyllio’r ddaear, ac yn ôl Bobi Jones, drwy’r gorchymyn hwn y daeth yr ymwybyddiaeth o Gymhelliad yn rhan greiddiol o wead y greadigaeth, a hynny i’r credadun ac i’r anghredadun fel ei gilydd. Mae’r ail orchymyn, sef yr un i foli Duw, yn cael ei ailadrodd yn amlach na’r un arall yn y Beibl (e.e. Salm 99:8). Cred Bobi Jones fod pawb yn reddfol o dan orfodaeth i ufuddhau i’r gorchymyn hwn, hyd yn oed os nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn moli’n uniongyrchol. Dylid pwysleisio nad ‘moli’ yn yr ystyr o ddweud pethau canmoliaethus mae Bobi Jones yn ei olygu yn y fan hon, ond yn hytrach y moli neu’r gogoneddu ar Dduw sy’n digwydd pan fydd y ddynoliaeth yn greadigol ffrwythlon yn unol â threfn a bwriadau Duw ar gyfer y ddaear. Fe’i gwelir yn ymhelaethu ar y materion hyn yn Llên Cymru a Chrefydd (1977), ac eto yn Mawl a’i Gyfeillion (2000) a Mawl a Gelynion ei Elynion (2002).

Ymdriniaeth Bobi Jones â maes Cymhelliad yw’r wedd fwyaf diddorol ar ei Feirniadaeth Gyfansawdd, a’r un fwyaf dadleuol hefyd. Drwy gyfuniad annisgwyl o syniadau Guillaume a meddylwyr Calfinaidd o’r Iseldiroedd a gogledd America cyflwynodd Bobi Jones ddamcaniaeth wreiddiol a heriol ynghylch ysgogiad dynion i lenydda.


Nid damwain yw hi mai triphlyg yw natur theori lenyddol Bobi Jones. Mae credoau Calfinaidd Bobi Jones a’i ymwybod o’r Drindod Sanctaidd yn ymdreiddio i bob rhan o’r prosiect hwn. Iddo ef mae natur drindodaidd y maes hwn yn adlewyrchu’n uniongyrchol natur drindodaidd y Duwdod. Mae’n debyg mai’r bydolwg Calfinaidd di-wyro hwn yw un o’r agweddau sydd wedi llywio ymateb pobl i waith Bobi Jones fwyaf.

Y dylanwad Calfinaidd hwn hefyd sy’n gwneud Bobi Jones yn anodd i’w labeli fel beirniad. Bu dylanwadau strwythurol cryf arno o du Guillaume ac mae ei awydd i ddadlennu systemau a pharamedrau cuddiedig llenyddiaeth yn amlygu hynny’n glir. Er mai ef yw strwythurwr amlycaf y Gymraeg, ar un ystyr mae ei ragdybiaethau Cristnogol a’r modd y mae ei theorïau wedi eu gwreiddio yn y traddodiad llenyddol Cymraeg yn ei dynnu ar yr un pryd i gyfeiriad tra gwahanol. Yn ei weithiau beirniadol ef ei hun y cyfeiriwyd atynt yn yr adran ar Fynegiant uchod, amlyga’r math o ddarllen clòs a arddelwyd gan y Beirniaid Newydd, fel Leavis et al.; ac mewn amryw o’i weithiau, megis Llên Cymru a Chrefydd, Mawl a’i Gyfeillion a Mawl a Gelynion ei Elynion, gwelir cyfuno trafodaethau theoretig a darllen clòs yn yr un gyfrol, yn union fel y gwelir plethu trafodaethau theoretig a manylion bywgraffyddol yn ei hunangofiant, O’r Bedd i’r Crud: Hunangofiant Tafod (2000). Dyma gyfuniad anghyffredin o ddiddordebau a thueddiadau beirniadol sy’n ei osod ar ei ben ei hun fel beirniad.

Prin yw’r bobl sy’n eistedd ar y ffens mewn ymateb i theorïau beirniadol Bobi Jones: mae’n feirniad pryfoclyd, tafod-ym-moch a di-flewyn-ar-dafod nad yw’n ystyried ffens yn fan gyfforddus i eistedd arni. Mae’n feirniad sy’n ennyn ymateb ac yn croesawu deialog adeiladol â’i wrthwynebwyr a’i gefnogwyr fel ei gilydd. Bu’r croesi cleddyfau cyhoeddus â’i feirniaid yn nodwedd ddifyr ar ei yrfa lenyddol ac yn enghraifft o’i barodrwydd i fachu ar bob llwyfan a chyfle posibl i gyflwyno ac egluro paramedrau Beirniadaeth Gyfansawdd.

Eleri Hedd James

Llyfryddiaeth

Brooks, S. (2004), O Dan Lygaid y Gestapo: Yr Oleuedigaeth Gymraeg a Theori Lenyddol yng Nghymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

James, E. H. (2009), Casglu darnau’r jig-so: Theori Beirniadaeth R. M. (Bobi) Jones (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Jones, R. M. (1974), Tafod y Llenor: Gwersi ar Theori Llenyddiaeth (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Jones, R. M. (1975), Llenyddiaeth Gymraeg 1936-1972 (Llandybïe: Christopher Davies).

Jones, R. M. (1977), Llên Cymru a Chrefydd: Diben y Llenor (Abertawe: Christopher Davies).

Jones, R. M. (1994), Cyfriniaeth Gymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Jones, R. M. (1998), Ysbryd y Cwlwm: Delwedd y Genedl yn ein Llenyddiaeth (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Jones, R. M. (2000), Mawl a’i Gyfeillion: Cyfrol 1: Adeiladu Mawl (Cyhoeddiadau Barddas).

Jones, R. M. (2002), Mawl a Gelynion ei Elynion: Cyfrol 2: Amddiffyn Mawl (Cyhoeddiadau Barddas).

Jones, R. M. (2003), Beirniadaeth Gyfansawdd: Fframwaith Cyflawn Beirniadaeth Lenyddol (Cyhoeddiadau Barddas). {CC SY-BA}}