Jones, Richard Elfyn (g.1944)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae Richard Elfyn Jones, a aned ym Mlaenau Ffestiniog, yn un o gerddorion mwyaf amryddawn ei genhedlaeth, sydd wedi gwneud cyfraniad helaeth nid yn unig fel cyfansoddwr ond hefyd fel arweinydd ac organydd, darlithydd, awdur, athronydd, ysgolhaig, a beirniad cerdd, ac ymysg ei gyhoeddiadau ceir erthygl ar David Wynne, A. N. Whitehead, a llyfr ar y cysylltiadau rhwng cerddoriaeth ac athroniaeth (gw. Jones 1979, 2000 a 2007).

Astudiodd gyfansoddi gyda William Mathias (1934-92) a Reginald Smith Brindle (1917-2003) yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Enillodd raddau BA ac MMus a bu’n fyfyriwr ymchwil yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt. Dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth gan Goleg Brenhinol yr Organyddion (FRCO) yn 1967 pan enillodd Wobr Limpus am ei berfformiadau. Yn 1978, dyfarnwyd iddo radd PhD am ei waith ar operâu y cyfansoddwr o Loegr, Michael Tippett (1905-98).

Treuliodd ei yrfa gyfan yn ddarlithydd yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal â bod yn gyfansoddwr amryddawn ac eang ei ystod, bu’n awdur nifer o lyfrau, yn eu plith gyfrol ar waith ei gyfaill o gyfansoddwr David Wynne (1979) a The Early Operas of Michael Tippett (1996). Ond mae ei brif gyfraniad fel ysgolhaig ym maes athroniaeth cerddoriaeth, a gwelir hyn yn bennaf yn Music and the Numinous (2007), gwaith crefyddol ei naws sy’n trafod natur sylfaenol cerddoriaeth (ac i ryw raddau’r celfyddydau eraill) trwy dechnegau arloesol ymresymu athroniaeth Proses.

Yn gynnar yn ei yrfa, gwnaeth enw iddo’i hun fel organydd gan ymddangos fel datgeinydd bymtheg o weithiau ar BBC Radio 3. Fel arweinydd cerddorfaol, cyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cystadleuaeth Ryngwladol Guido Cantelli ym Milan yn 1980. Ond bu ei bwyslais mwyaf ar arwain corawl. Bu’n arweinydd Côr Poliffonig Caerdydd (1977-91) ac Ensemble Lleisiol Cymru. Bu’n gorws-feistr hefyd ar gyfer perfformiadau teledu a radio gan weithio’n agos gydag arweinyddion megis Colin Davis, Andrew Davies, Roger Norrington, John Eliot Gardiner a Neville Marriner.

Cyfansoddodd ar gyfer nifer o gerddorion cyfoes adnabyddus, yn eu plith Bryn Terfel, Gillian Weir, John Scott, Jack Brymer, Pedwarawd Llinynnol Britten, Llŷr Williams, Huw Tregelles Williams; ysgrifennodd hefyd ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn yr 1990au bu’n ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu, a denodd ei gerddoriaeth ar gyfer cyfresi teledu Timeline ac After the Warming (Maryland PBS, 1990) yn yr Unol Daleithiau sylw rhyngwladol. Rhwng 1996 a 2004, ef oedd ymgynghorydd cerddoriaeth glasurol S4C.

O ran arddull ei gyfansoddiadau, mae ei grefft ofalus yn cwmpasu’r traddodiadol ac yn ddyledus i raddau i waith cyfansoddwyr y tir canol megis ei hen athro, William Mathias. Ceir hefyd elfen o arddull gynnar a chyfnod canol Tippett a Messiaen. Mae’r rhythmau yn aml yn gymhleth ond cyplysir hynny gydag awydd amlwg i gyfathrebu. Ysgrifennodd ymhell dros gant o weithiau bach a mawr. Mae’n cwmpasu genres megis gweithiau siambr a darnau allweddellol, corawl a cherddorfaol fel ei gilydd. Derbyniodd gomisiynau gan y prif wyliau cerdd yng Nghymru a thu hwnt. Daw ei dras Gymreig yn amlwg ar brydiau megis yn y trefniannau o alawon gwerin, Tair Cân Werin Gymreig ar gyfer mezzo-soprano a cherddorfa (a gymharwyd o ran arddull i’r Songs of the Auvergne gan Canteloube), a Cyfaredd Bro i gôr a cherddorfa a gyfansoddodd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun yn 1986.

Dangosodd allu arbennig yn y darnau corawl a lleisiol wrth osod geiriau gan Saunders Lewis, Vernon Watkins, Gerard Manley Hopkins a sawl bardd Cymraeg cyfoes. Ymhlith ei weithiau mwyaf nodedig y mae’r Brangwyn Overture (1981) a gyfansoddwyd ar gyfer organ Neuadd y Brangwyn, Abertawe, i’w berfformio gan Gillian Weir, ac a recordiwyd ar label Vienna Modern Masters gan Gerddorfa Symffoni Kraków. Mae’n waith hynod effeithiol ac idiomatig a ddylai gael ei berfformio’n amlach yn rhyngwladol (‘a Proms must if not heard before on the South Bank,’ yn ôl un adolygiad yn The Sunday Times).

Clywyd y gantata estynedig i soprano, côr a cherddorfa, Goroesiad Cenedl, yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2003. Roedd y gwaith hwn yn ffrwyth cydweithio llwyddiannus rhwng y cyfansoddwr a’r bardd Alan Llwyd. Gwaith tebyg ond gyda geiriau Saesneg yw In David’s Land (2006), gwaith corawl cenedlaetholgar arall ar raddfa eang i gôr, unawdwyr a cherddorfa a gomisiynwyd gan Ŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun yn 2006. Mae’r ddau waith corawl hyn yn arddangos dawn y cyfansoddwr i greu cerddoriaeth emosiynol bwerus wrth drin cynfas eang.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth

  • Richard Elfyn Jones, David Wynne (Gwasg Prifysgol Cymru, 1979)
  • ———, ‘AN Whitehead and Music: Real Time’, The Musical Times, 14/1873 (Gaeaf, 2000), 47–52
  • ———, Music and the Numinous (Rodopi, 2007)
  • Tŷ Cerdd (archifau a gwefan)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.