Jones, Tom (g.1940)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Seren bop a theledu a aned ym Mhontypridd. Gadawodd Thomas Jones Woodward yr ysgol yn un ar bymtheg oed ac o fewn wyth mlynedd rhyddhaodd ei sengl gyntaf, ‘It’s Not Unusual’ (1965). Rhwng 1965 ac 1968, cafodd lwyddiant aruthrol gyda chaneuon megis ‘What’s New Pussycat’, ‘Green, Green Grass of Home’ a ‘Delilah’. Yn yr un cyfnod, aeth i’r Unol Daleithiau gan ymddangos ar raglen deledu Ed Sullivan a sicrhau cynulleidfa fawr, newydd. Rhwng 1969 ac 1971, bu’n cyflwyno ei raglen deledu ei hun, This Is Tom Jones, a ddarlledwyd yn yr Unol Daleithiau a Phrydain. Yn dilyn hyn, daeth yn un o sêr mwyaf amlwg yr 1970au.
Tom Jones yn perfformio ym Mharti Pen-blwydd y Frenhines (2018).

Roedd ei dull canu yn hawdd ei adnabod, sef llais cryf, uchel a bombastig ar adegau. Ond bu newidiadau mawr yn hanes ac arddulliau y byd pop a roc yn ystod yr 1970au ac ymddangosai fod poblogrwydd Tom Jones yn mynd ar i waered. Fodd bynnag, daeth llwyddiant pellach iddo yng ngwledydd Prydain yn 1987 gyda’i sengl ‘A Boy from Nowhere’, ac roedd yn arwydd o adfywiad arwyddocaol yn hanes ei yrfa. Yn 1988, gyda’r band The Art of Noise, recordiodd fersiwn o gân boblogaidd Prince, ‘Kiss’, yn null cerdd ddawns electronig. Bu’r gân yn llwyddiant ysgubol ledled y byd, ar y radio ac ar MTV, a daeth hynny â sylw cynulleidfa newydd, ifanc iddo.

Fyth ers hynny, ni fu pall ar ei lwyddiant, o’i ymddangosiad ar y Simpsons i’w berfformiad ar brif lwyfan Gŵyl Glastonbury yn 1992. Yn 1999 rhyddhaodd un o’i recordiau mwyaf poblogaidd, Reload (V2, 1999). Roedd Reload yn nodedig nid yn unig oherwydd yr egni newydd a roddodd i hen ganeuon adnabyddus, ond hefyd gan fod ei hymddangosiad yn cyd-daro â chyfnod ‘Cŵl Cymru’. Amlygiad clir o hynny oedd y ffaith fod y Stereophonics, James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers a Cerys Matthews o Catatonia oll wedi cyfrannu i’r recordiad.

Ar ddechrau’r 21g., y mae enwogrwydd Tom Jones a’r parch i’w gyfraniad i fyd adloniant ledled y byd wedi’u cydnabod drwy wahanol wobrau ac anrhydeddau. Fe’i hurddwyd yn farchog yn 2006 ac mae wedi ymddangos ar lwyfan a theledu yng nghwmni sêr byd yr opera a sêr canu blues. Daliodd ati i berfformio mewn gwyliau pop ledled y byd, a recordiodd yn gyson yn unigol ac ar y cyd â chenhedlaeth newydd ac ifanc o gerddorion. Yn 2012 roedd yn un o feirniaid gwreiddiol rhaglen dalent y BBC, The Voice.

Sarah Hill

Disgyddiaeth ddethol

  • Along Came Jones (Decca LK4693, 1965)
  • What’s New Pussycat? (Parrot PA61006, 1966)
  • Green, Green Grass of Home (Decca SKL4855, 1967)
  • Delilah (Decca LK4946, 1968)
  • This Is Tom Jones (Decca SKL5007, 1969)
  • Live in Las Vegas (Decca SKL5032, 1969)
  • I Who Have Nothing (Decca SKL5072, 1970)
  • Tom (Decca SKL5045, 1970)
  • Tom Jones Sings She’s a Lady (Decca SKL5089, 1971)
  • Live at Caesar’s Palace (Decca SKL1/1 & 1/2, 1971)
  • Close Up (Decca SKL5132, 1972)
  • The Body and Soul of Tom Jones (Decca SKL5162, 1973)
  • What a Night (EMI EMC3221, 1977)
  • At This Moment (Jive JHD121, 1992)
  • Carrying a Torch (Dover ADD20, 1991)
  • The Lead and How to Swing It (Interscope 92457-2, 1994)
  • Reload (Gut GUTCD009, 1999)
  • Mr. Jones (V2 VVR 1021072, 2002)
  • 24 Hours (S-Curve Records 5099926515724, 2008)
  • Praise and Blame (Island 274129-7, 2010)
  • Spirit in the Room (Island 370182-0, 2012)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.