Karl Francis

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ganwyd Karl Francis, awdur, cyfarwyddwr a chynhrychydd ffilm, ym Medwas ar y 1af o Ebrill 1942. Er bod y rhan fwyaf o’i ffilmiau drwy gydol ei yrfa wedi bod yn yr iaith Saesneg, mae wedi defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng ar sawl achlysur. Efallai gellir dweud bod hyn allan o anghenrhaid i ariannu ei ffilmiau, ond mae’n glir fod ei ffilmiau Cymraeg wedi bod yn rhai lled-lwyddianus, ac wedi llwyddo i roi proffeil i’r iaith a’r cyw-sianel y tu hwnt i Gymru yn yr wythdegau cynnar.

Dechreuodd ei yrfa ym 1977 gyda ffilm ddrama dogfen bwerus am gau pwll glo yng Nghwm Rhymni, sy’n dwyn y teitl Above Us the Earth. Ei ffilm gyntaf i ddefnyddio’r iaith Gymraeg oedd Yr Alcoholig Llon (1985), ffilm sydd eto wedi ei gosod mewn cyd-destun glofaol ond y tro hwn adlewyrchir y dadfeiliad cymdeithasdol hwnnw yn stori bersonol un dyn a'i frwydr gydag alcoholiaeth a gaiff ei bortreadu'n boebus o eglur gan Dafydd Hywel.

Aeth ymlaen i ysgrifennu a saethu Milwr Bychan ym 1986, a hon fu'r ffilm a dorrodd allan o'r sgrin fach, ochr yn ochr â Rhosyn a Rhith, i gael dangosiadau theatrig yng Ngŵyl Ffilm Llundain y flwyddyn honno. Daeth y ffilmiau hyn i symboleiddio rhyw fath o hyder y gallai yno, o bosib, fod rhyw egin o sinema Gymraeg, er eu bod ill dau wedi eu cyfarwyddo gan bobol nad oeddent yn gallu'r Gymraeg eu hunain.

Wedi ei drydedd ffilm Gymraeg, Llid y Ddaear (1989), dafeiliodd perthynas Francis â’r sianel ac aeth yn ôl at gynhyrchu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig unwaith eto tan 2006 pan gynhyrchodd y ffilm amlieithog Hope gyda chefnogaeth S4C unwaith eto, ffilm wedi ei gosod yn Ne Affrica sydd nawr wedi ei ail-olygu a'i hymestyn ac yn dwyn y teitl Hope Eternal.