Kinney, Phyllis (g.1922)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Phyllis Kinney yn ninas ddiwydiannol Pontiac, talaith Michigan, Unol Daleithiau America, yn 1922. Derbyniodd ei haddysg gynnar yn Pontiac High School cyn graddio mewn cerddoriaeth yn y Michigan State College yn East Lansing yn 1943. Oherwydd ei gallu cynhenid fel cantores, dyfarnwyd cymrodoriaeth dair blynedd iddi i astudio yn y Juilliard School of Music, Efrog Newydd, sef un o sefydliadau addysgol amlycaf y byd cerdd. Yn ystod ei chyfnod yno, derbyniodd hyfforddiant i fod yn berfformwraig broffesiynol, gan ddysgu Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg yn ogystal â hanfodion cerddoriaeth (harmoni, cerddorfaeth, gwaith clust a.y.b.). Ei hathrawes leisiol oedd Queena Mario (1896–1951), a fu’n unawdwraig flaenllaw yng Nghwmni Opera’r Metropolitan am gyfnod o ddeunaw mlynedd.

Yn 1947, symudodd Phyllis Kinney i Loegr a chael ei phenodi’n brif soprano yng Nghwmni Opera Carl Rosa ac ar ei hymweliad â chanolfan ddarlledu’r BBC ym Mangor, cyfarfu â’i darpar-ŵr, Meredydd Evans (a oedd yn aelod o Driawd y Coleg). Priodwyd y ddau yn 1948 ond parhaodd Phyllis â’i gyrfa fel cantores drwy gyfrannu i raglenni radio y BBC (e.e. The Light Programme) ac fel unawdydd soprano mewn cyngherddau clasurol ym Mangor a thu hwnt. Dychwelodd Phyllis i’w mamwlad gyda’i phriod yn 1952, a thra astudiai Merêd ar gyfer ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Princeton (New Jersey), parhaodd hithau i ddysgu canu (a cherddoriaeth, fel pwnc) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn y gymdogaeth. Yr adeg honno hefyd daeth Phyllis i sylw’r cyhoedd drwy gyfrwng ei phortread o gymeriad ‘The girl with the tablet’ yn opera un-act The Trial of Lucullus (1947) o waith Roger Sessions (1896–1985) a oedd yn athro cyfansoddi ym Mhrifysgol Princeton.

Wedi dychwelyd i Fangor yn 1960, cyfrannodd i fywyd cerddorol y ‘Coleg ar y bryn’ drwy gyfrwng perfformiadau fel unawdydd soprano yng nghyngherddau corawl y brifysgol (gweithiau gan Purcell, Pergolesi, Vivaldi, J. S. Bach ac ati) yn ogystal â chanu alawon gwerin ar rai o raglenni Cymraeg y BBC. Ffrwyth y bartneriaeth agos rhwng Merêd a Phyllis, fodd bynnag, fu eu cyfraniad nodedig i faes cerddoriaeth draddodiadol Cymru – drwy gyfrwng darlithoedd, perfformiadau, erthyglau, adolygiadau, beirniadaethau, casgliadau o ganeuon brodorol wedi’u golygu a chyfrolau sy’n ymdrin â’r maes. Yn ôl y disgwyl, diddordeb pennaf Phyllis fu’r agweddau cerddorol ar ddatblygiad yr alawon gwerin Cymreig (e.e. tonau yr Hen Benillion, cysylltiad cerddoriaeth Gymreig a Gwyddelig, nodweddion a thueddiadau cerddorol y canu brodorol), ond cyhoeddodd hefyd ar agweddau hanesyddiaeth, ysgolheictod a cherddoleg rhai o brif gasgliadau cerddoriaeth Cymru’r 18g. a’r 19g. (e.e. casgliad Iolo Morganwg o ganeuon gwerin, carolau plygain John Owen, alawon ffidil John Thomas a Morris Edwards a.y.b.).

Coron ar ei chyfraniad yw ei chyfrol Welsh Traditional Music a gyhoeddwyd yn 2011, sy’n ymdrin â’r traddodiad canu gwerin yn ei gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol drwy gyfrwng cyfres o benodau ar gasglu a chofnodi alawon o’r 18g. hyd at waith a chyfraniad Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn yr 20g., cerdd dant, caneuon defodol ac agweddau ar y traddodiad offerynnol yng Nghymru. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddi am ei chyfraniad arbennig i gerddoriaeth Cymru gan Brifysgol Cymru, Bangor, yn 1997.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • Phyllis Kinney, Caneuon chwarae (Caerdydd, 1972)
  • ———, Caneuon gwerin i blant (Llandysul, 1981)
  • ———, Canu’r Cymry/Welsh Folk Songs, Cyf. 1 (Penygroes, 1984)
  • ———, Canu’r Cymry/Welsh Folk Songs, Cyf. 2 (Penygroes, 1987)
  • ———, Hen Alawon (Carolau a Cherddi) – John Owen, Dwyran (Aberystwyth, 1993)
  • Sally Harper a Wyn Thomas (goln.), Cynheiliaid y Gân: Ysgrifau i Anrhydeddu Phyllis Kinney a Meredydd Evans (Caerdydd, 2007)
  • Phyllis Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.