Lark, Sarah (g.1983)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Sarah Lark yng Nghaerdydd ac erbyn hyn mae’n enw cyfarwydd ym maes theatr gerdd a sioeau cerdd. Dechreuodd ganu pan oedd yn ifanc. Yn 1995 perfformiodd mewn cynhyrchiad o’r sioe gerdd Annie gan gwmni theatr Starstruck. Chwaraewyd y brif ran yn y cynhyrchiad hwn gan Charlotte Church, hithau hefyd yn enedigol o Gaerdydd. Yng nghanol yr 1990au ymddangosodd Sarah yn Biz, cyfres boblogaidd y BBC a oedd yn seiliedig ar ysgol ddrama ddychmygol, ac yn fuan wedyn fe’i gwahoddwyd i ganu mewn cynhyrchiad cynnar o sioe gerdd Andrew Lloyd Webber, Whistle down the Wind, a lwyfannwyd ar ystâd y cyfansoddwr.

Ym mis Mehefin 2000 perfformiwyd y sioe gerdd The Witches of Eastwick am y tro cyntaf yn Theatr Frenhinol Drury Lane, Llundain, a dewiswyd Lark i chwarae rhan y Ferch Fach. Roedd hwn yn gyfnod prysur iddi; yn 2003 ymddangosodd yn y sioe gerdd Beautiful and Damned a’r gomedi Snoopy! The Musical. Yn dilyn cyfnod yn Academi Gerdd Frenhinol Llundain cafodd ran yn y sioe Mamma Mia a lwyfannwyd yn Theatr Tywysog Cymru yn y brifddinas.

Yn 2008 penderfynodd y BBC ddarlledu cyfres newydd o’r enw I’d Do Anything (a hynny, mae’n debyg, yn dilyn llwyddiant cyfresi megis How do you Solve a Problem like Maria? ac Any Dream will Do). Byddai’r ferch fuddugol ar ddiwedd y gyfres yn cael chwarae rhan Nancy mewn cynhyrchiad newydd o’r sioe gerdd Oliver! yn y West End. Er nad Sarah enillodd, cafodd gyfle i ymddangos yn y sioe fel dirprwy actores ar gyfer rhan Nancy (Jodie Prenger) ac mewn un rhan atodol arall. Yn dilyn ei hymddangosiad yn y gystadleuaeth roedd Sarah’n awyddus i ehangu ei repertoire ac i arbrofi mewn gwahanol genres cerddorol.

Derbyniodd wahoddiadau cyson i ymddangos mewn cynyrchiadau a chyngherddau, gan gynnwys rhan yn y pantomeim Snow White yn Theatr Churchill, Bromley. Cafodd gryn ganmoliaeth am ei pherfformiad, gan gynnwys y clod hwn yn The Stage: ‘Sarah Lark’s Snow White is simply wonderful - particularly vocally as she brings a real poignancy to Someday my Prince will Come’. Yn fuan wedyn gwahoddwyd Sarah i chwarae rhan Miss Mona mewn cynhyrchiad o’r sioe gerdd The Best Little Whorehouse in Texas yn Theatr yr Union, Llundain. Ym mis Mehefin 2012 dechreuodd ganu yn Les Misérables yn Theatr Queens, Llundain, fel aelod o’r ensemble a hefyd fel dirprwy actores. Cyfrannodd at dair cryno-ddisg, sef The Witches of Eastwick (rhan y Ferch Fach), Oliver! a Bluebird (rhan Roberta).

Euros Rhys Evans

Disgyddiaeth

  • The Witches of Eastwick (First Night Records CAST CD79, 2000)
  • Oliver! (First Night Records CAST CD105, 2009)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.