Le Bon, Cate (g.1983)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores a chyfansoddwraig wreiddiol a dylanwadol o fewn y sîn indie ryngwladol, sy’n canu’n bennaf yn Saesneg. Ganed Cate Timothy (neu Cate Le Bon) ym Mhenboyr, Sir Gaerfyrddin.

Daeth Le Bon i amlygrwydd wrth gefnogi Gruff Rhys, prif leisydd y Super Furry Animals, ar ei daith unigol gyntaf o gwmpas gwledydd Prydain yn 2007. Yn yr un flwyddyn rhyddhaodd Le Bon ei sengl gyntaf ar ei liwt ei hunan, ‘No One Can Drag Me Down’/‘Disappear’ (Randomonium, 2007), a oedd yn cynnwys cyfraniadau gan Megan Childs o Gorky's Zygotic Mynci ar y ffidil a John Thomas (a fu’n recordio gyda’r Super Furry Animals a’r Thrills) ar y gitâr ddur. Fe’i dilynwyd yn 2008 gyda’r EP Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg (Peski Records, 2008), a oedd hefyd yn cynnwys cyfraniad gan brif leisydd y Gorky’s, Euros Childs.
Cate Le Bon yn perfformio’n fyw yn The Arch, Llundain (2012).

Yn wir, clywir arddull felodig, swreal y Gorky’s yng nghaneuon cynnar Le Bon, ynghyd â chanu gwlad a chyffyrddiadau gwerinol. Fe ddywedodd yn ddiweddarach fod bandiau megis y Super Furry Animals a’r Gorky’s wedi ei ‘chyflwyno i fath o ryddid creadigol oedd yn teimlo fel punk’ (Barlow, 2016). Roedd ei llais i’w glywed hefyd ar ‘I Lust U’ Neon Neon (Lex, 2008), deuawd greadigol Gruff Rhys a’r cynhyrchydd Boom Bip o Los Angeles.

Erbyn hynny roedd Le Bon yn derbyn gwahoddiadau i berfformio mewn sawl gŵyl ryngwladol, gan gynnwys Glastonbury, Latitude a Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Yn 2009 rhyddhaodd ei halbwm cyntaf, Me Oh My (Irony Bored, 2009), ar label Gruff Rhys, ac er mai sain acwstig a berthynai i’r record yn gyffredinol, fe gymharodd rhai ei harddull leisiol gyda Nico o’r Velvet Underground. Y flwyddyn ganlynol fe ganodd ar ail albwm The Gentle Good, Tethered for the Storm (Gwymon, 2011). Yn 2011 defnyddiwyd ei llais drachefn ar y trac ‘Do As I Do’ ar yr albwm Zig Zaj (Lex, 2011) gan Boom Bip. Ymddangosodd ei hail albwm, Cyrk, yn 2012 (Control Group, 2012) ynghyd â’r EP Cyrk II.

Ar ddechrau 2013 symudodd Le Bon i Los Angeles er mwyn hybu ei gyrfa ymhellach. Perthynai arddull fwy uniongyrchol ‘bopaidd’ i’w thrydedd record hir, Mug Museum (Wichita, 2013), gyda Noah Georgeson a Josiah Steinbrick yn cynhyrchu, ei phartner Huw Evans ar y gitâr a Sweet Baboo (sef Stephen Black) ar y gitâr fas. Cyfrannodd lais cefndir i’r trac ‘Slow Train’ ar albwm Harlem River gan Kevin Morby. Yn Hydref 2013 aeth ar daith gyda’r Manic Street Preachers wrth iddynt hybu eu halbwm Rewind the Film (Columbia, 2013), a hi oedd y prif leisydd ar y trac ‘4 Lonely Roads’. Yn 2016 rhyddhaodd ei phedwerydd album, Crab Day (Turnstile, 2016), oedd yn cynnwys cyfraniadau gan y gitarydd Josh Klinghoffer, gynt o’r Red Hot Chili Peppers, a’r drymiwr Stella Mozgawa o’r grŵp indie o Galiffornia, Warpaint. Disgrifiwyd Crab Day gan y Guardian fel ‘siop hen bethau ryfeddol o record sy’n bleser i’w harchwilio’.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • ‘No One Can Drag Me Down/Disappear’ [sengl] (Randomonium 70300h, 2007)
  • Edrych yn Llygaid Benthyg [EP] (Peski 009, 2008)
  • ‘Hollow Trees House Hounds’ [sengl] (Irony Bored BOREDCD002P, 2009)
  • Me Oh My (Bored BOREDCD001, 2009)
  • ‘Shoeing the Bones’ [sengl] (Irony Bored BOREDCDOO3P, 2010)
  • Cyrk (Control Group CG0084, 2012)
  • Cyrk II [EP] (Ovni, 2012)
  • ‘Puts Me to Work’ [sengl] (Ovni, 2012)
  • ‘Time Could Change Your Mind’ [sengl] (Ovni OVNI011, 2012)
  • Mug Museum (Turnstile TS005, 2013)
  • Crab Day (Turnstile 2016 TS022CD, 2016)

Llyfryddiaeth

  • Eve Barlow, ‘California State of Mind’, The Guardian (12 Ebrill 2016)
https://www.theguardian.com/music/2016/apr/12/welsh-pop-cate-le-bon-new-album-crab-day cyrchwyd ar 19 Ebrill 2016
https://www.theguardian.com/music/2016/apr/17/cate-le-bon-crab-day-review



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.