Lewis, Geraint (g.1958)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddor amryddawn, cyfansoddwr ac ysgolhaig a aned yng Nghaerdydd. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Bryntaf ac Ysgol Uwchradd Gymraeg Rhydfelen cyn dilyn cwrs gradd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, rhwng 1977 ac 1980, lle bu’n astudio gyda’r cyfansoddwyr Alexander Goehr (g.1932), Gerald Hendrie (g.1935) a Robin Holloway (g.1943), ynghyd â’r arweinydd disglair George Guest (1924-2002).

Ar ôl cyfnod o ddarlithio yn adran gerdd Coleg Prifysgol Cymru, Bangor, yn ystod yr 1980au, aeth i gyfeiriad recordio a chynhyrchu clasurol, gan weithio’n bennaf i gwmni Nimbus yn Nhrefynwy fel cyfarwyddwr artistig. Bu’n cydweithio’n agos gyda rhai o brif gyfansoddwyr ail hanner yr 20g., megis Michael Tippett (1905-98), Jonathan Harvey (1939-2012) a George Benjamin (g.1960). Golygodd gyfrol deyrnged i Tippett ar achlysur ei ben-blwydd yn 80 yn 1985 (gw. Lewis 1985).

Cyhoeddodd yn helaeth ar gyfansoddwyr Cymraeg a Chymreig ail hanner yr 20g., gan gynnwys erthyglau ar ffigyrau pwysig megis William Mathias ac Alun Hoddinott yn y cylchgrawn Cerddoriaeth Cymru a’r New Grove Dictionary of Music and Musicians, ac yn fwy diweddar ei adolygiadau craff ar dudalennau Barn a Gramophone. Rhwng 1988 a 2001 bu’n gyfarwyddwr Gŵyl Gerdd Ryngwladol Llanelwy, ac ef oedd cadeirydd panel cerddoriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 1996 a 2002. Clywir ei lais yn aml ar Radio Cymru, yn arbennig fel sylwebydd ar gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol yn Pigion yr Wythnos.

Fe’i cyfrifir ymysg un o gyfansoddwyr Cymreig pwysicaf ei genhedlaeth. Cafodd gomisiynau gan nifer o wyliau cerdd ar draws Cymru a thu hwnt, gan gynnwys Llanandras (Presteigne), Abertawe, Abergwaun a Biwmares. Perthyn sŵn unigryw i’w gerddoriaeth, sy’n deillio’n rhannol o’r ffaith ei fod wedi ymwrthod ag arddulliau ffasiynol y cyfnod diweddar, megis cyfresiaeth ar y naill law a minimaliaeth ar y llall.

Clywir cyfeiriadau yn ei gerddoriaeth at y traddodiad corawl Anglicanaidd a brofodd yn ystod ei amser yng Ngholeg Sant Ioan. Disgrifiwyd ei arddull fel un neo-Edwardaidd, ond mae ei ddehongliad o’r traddodiad yn gwbl wreiddiol ac yn un sydd wedi’i wreiddio - fel yng ngherddoriaeth gorawl John Tavener - yn y cyfnod diweddar.

Er iddo gyfansoddi ym mhob ffurf bron, gan gynnwys concerto i’r delyn ar gyfer Catrin Finch (yn ogystal â sonata ar ei chyfer, a berfformiwyd ar achlysur agoriad swyddogol Galeri, Caernarfon, yn 2005), opera ar stori Culhwch ac Olwen i eiriau gan y bardd Gwyn Thomas ar gyfer Gŵyl Cricieth yn 2001, ynghyd â chylch o ganeuon ar gyfer y tenor Gwyn Hughes Jones, ym maes cerddoriaeth leisiol a chorawl y clywir ei waith ar ei fwyaf effeithiol. Derbyniodd The Souls of the Righteous – gwaith a gyfansoddodd yn dilyn marwolaeth annhymig ei gyfaill agos, y cyfansoddwr William Mathias – lu o berfformiadau, gan ymddangos ar nifer o recordiadau. Dywed Carolyn Pirtle fod y gosodiad yn dyst nid yn unig i alar Lewis yn dilyn marwolaeth Mathias, ond hefyd i allu ffydd i gysuro a chymodi (Pirtle 2015). Clywir cydblethiad effeithiol o elfennau tonyddol a moddawl yng ngherddoriaeth leisiol Lewis, gan gynnwys My Paradise Garden.

Pwyll ap Siôn

Llyfryddiaeth

  • Geraint Lewis (gol.), Michael Tippett, O.M.: a celebration (Tunbridge Wells, 1985)

Disgyddiaeth

  • The Souls of the Righteous yn The English Anthem, Cyf. 7 (Hyperion CDA67087, 1999)
  • The Souls of the Righteous yn War & Peace - Music for Remembrance (Signum Classics SIGCD328, 2013)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.