Lewis, Ruth Herbert (1871-1946)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Casglydd caneuon gwerin. Ganed Ruth Herbert Lewis (Ruth Caine oedd ei henw bedydd) yn Alexandra Drive, Princes Park, Lerpwl, a’i magu ar aelwyd gerddorol. Fe’i haddysgwyd yn gyntaf yn breifat, ac yna yn Ysgol Uwchradd Clapham i Ferched, Llundain, ac yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt. Derbyniodd radd MA o Goleg y Drindod, Dulyn, yn 1906. Ar 8 Gorffennaf 1897 priododd yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol John Herbert Lewis (1858-1933). Ymgartrefodd y ddau yn 23 Grosvenor Road, Llundain, a magu dau o blant, Alice Catherine ‘Kitty’ (1898-1984) a Herbert Mostyn (1901-85). Mynychent gapel Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Charing Cross Road.

Fe’i cyflwynwyd i ganeuon gwerin gan Mary Davies (1855-1930), ond fel casglwr nid oedd yn fedrus wrth nodiannu perfformiadau nac ychwaith yn siarad Cymraeg yn rhugl. Rhwystrai ei hegwyddorion dirwestol cryf hi rhag chwilio am gantorion mewn tafarndai, ac fel menyw roedd syniad ei hoes o wedduster yn cyfyngu arni. Bu prynu ffonograff ‘Gem’ Edison-Bell yn fodd i ddatrys anawsterau trawsgrifio yn y maes; ei dibyniaeth ar y peiriant hwn oedd nod amgen ei gyrfa fel casglydd. Gan ddefnyddio silindrau cwyr brown, byddai’n cofnodi’n gywir y llu o fân amrywiadau ym mhob cân.

Yng Nghroeswian, ger Caerwys, ddechrau Hydref 1910 y cofnododd ei chân werin gyntaf, amrywiad Sir y Fflint ar y garol Gymreig ‘O deued pob Cristion’. Yn 1912-3 bu’n casglu yn Sir Ddinbych, ac ym mis Mehefin 1913, gydag Annie Ellis, treuliodd dridiau’n casglu yn ardal Llandysul gan gynnwys Llangeler a Chastellnewydd Emlyn. Wrth i ragor o bobl glywed am ei diddordeb, câi caneuon gwerin eu hanfon ati hefyd.

Ffynhonnell unigol fwyaf cynhyrchiol ei chaneuon gwerin oedd Mrs Jane Williams o Wyrcws Treffynnon. Cofnododd lawer o ddatgeiniaid eraill hefyd gan gynnwys William Griffiths, Treffynnon (Wil Ffidler), a gyfeiliai i ddawnswyr y ‘Cadi Ha’, a Mrs Jane Williams (1864-1947), Berthengam (y ddau o Sir y Fflint); a hefyd Henry Vaughan Williams (1845-1932), Bryn Rhyd-yr-Arian, ac Isaac Jones (1829-1913), Llannefydd (y ddau o Sir Ddinbych).

Cofnodwyd y deuddeg eitem sy’n ymddangos yn ei chyfrol gyhoeddedig gyntaf, Folk-Songs Collected in Flintshire and the Vale of Clwyd (1914), yn ystod 1911–13; a’r saith enghraifft a geir yn Second Collection of Welsh Folk-Songs (1934) yn bennaf yn 1913. Mae pob cyfeiliant yn y gyfrol gyntaf, a’r tri cyntaf yn yr ail, gan Morfydd Llwyn Owen (1891–1918), a drawsgrifiodd lawer o’r recordiadau gwreiddiol; mae’r gweddill gan Grace Gwyneddon Davies (1879–1944).

Ar ôl i Ruth Lewis orffen ei phrif waith casglu yn 1914, daeth yn fwy amlwg fel darlithydd ar ganeuon gwerin Cymru. Wedi i’w gŵr gael ei wneud yn farchog yn 1922, câi ei hadnabod fel y Fonesig Lewis. Yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel bu’n ymwneud fwyfwy â gweinyddu a threfnu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Roedd yn aelod cynnar o’r Gymdeithas, ac fe’i hetholwyd yn gyntaf yn gyd- ysgrifennydd (1915) gydag Amy Preece (1874-1961), daeth wedyn yn gadeirydd cyntaf y Gymdeithas (1927) ac, yn dilyn marwolaeth Mary Davies, bu’n llywydd arni hyd nes ei marwolaeth hithau ym Mhlas Penucha ar 26 Awst 1946. Ceidwadol oedd ei hamcangyfrif yn 1940 iddi gasglu rhwng deugain a hanner cant o alawon. Er 1955 fe’i coffeir yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol â Chwpan Coffa’r Fonesig Herbert Lewis.

David R. Jones

Llyfryddiaeth

  • Kitty Idwal Jones, ‘Adventures in Folk-Song Collecting’, Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music, 5/5 (1977), 33–52
  • David R. Jones, ‘A Folk-song Romance: Ruth Herbert Lewis (1871–1946)’ (traethawd MA Prifysgol Cymru, Bangor, 2002)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.