Llên-ladrad

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Plagiarism

Defnyddio geiriau neu syniadau pobl eraill heb ganiatâd, a heb briodoli’r geiriau i’r awdur gwreiddiol. Ystyriwyd hyn ers blynyddoedd yn bechod mawr sy’n tramgwyddo moeseg newyddiadurol lle y mae rhai’n ystyried llên-ladrad yn debyg i ddwyn. Mae cyhuddiad o lên-ladrad yn ddigon i ddisgyblu newyddiadurwr yn llym, gan gynnwys atal neu derfynu cyflogaeth.

Ers dyfodiad y rhyngrwyd, mae llên ladrad yn fwy cyffredin, ac yn ei gwneud hi’n fwyfwy hawdd i ‘fenthyg’ deunydd. Mae llên-ladrad newyddiadurol yn golygu defnyddio gwybodaeth heb roi clod i’w ffynhonnell, copïo darnau gan awduron eraill, neu gopïo syniad neu ddadansoddiad o ddigwyddiadau neu faterion yn y newyddion gan ohebydd arall.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.