Llên micro

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Darn byr o ryddiaith greadigol yw darn o lên micro. Er y gall rannu rhai o nodweddion y stori fer, y mae’n fyrrach o lawer. Oherwydd ei hyd a’r cynildeb awgrymog yr anelir ato, cyfeiriwyd at y ffurf gan un beirniad fel ‘englynion mewn rhyddiaith’, ac ar ei gorau mae’n ffurf dra chywasgedig a chyfoethog, gyda phob gair yn talu am ei le mewn modd tebyg i’r hyn yr anelir ato mewn barddoniaeth.

Gwelwyd enghreifftiau o ddarnau yn y dull hwn yng nghyfrol Robin Llywelyn, Y Dŵr Mawr Llwyd (1995). Cynigiwyd gwobr am gasgliad o ddeg o storïau byrion ar ffurf llên micro, rhwng 50 a 250 o eiriau yr un, yn Eisteddfod Genedlaethol 2000. Cyfeiriodd y beirniad, Jerry Hunter, at straeon Robin Llywelyn fel yr enghreifftiau cynharaf y gwyddai amdanynt yn Gymraeg. Enillwyd y gystadleuaeth gan Siân Northey, a ystyrir bellach yn un o feistri’r ffurf. Daeth y gystadleuaeth yn un rheolaidd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y ganrif hon. Un o’r enghreifftiau mwyaf adnabyddus o lên micro yn Gymraeg yw Symudliw, cyfrol Annes Glynn a enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2004. Dyma’r tro cyntaf i’r ffurf ddod i’r brig yn y gystadleuaeth hon, a chydnabu’r beirniaid newydd-deb y ffurf ar y pryd.

Oherwydd ei bod yn ffurf gymharol newydd ni cheir diffiniadau pendant o lên micro, ond y mae cynildeb ac awgrymusedd yn nodweddion cyffredin. Wrth feirniadu cystadleuaeth llên micro yn Eisteddfod Genedlaethol 2005, nododd Manon Rhys fod y stori ficro yn ‘hynod fyr, yn dynn ac yn gynnil’, a bod ‘paragraff neu ddau’n cyfleu’r un dyfnder a’r un ehangder ag a geir mewn stori hwy o lawer’.

Llŷr Gwyn Lewis a Robert Rhys

Llyfryddiaeth

Glynn, A. (2004), Symudliw (Caernarfon: Gwasg Gwynedd).

Hunter, J. (2004), 'Beirniadaeth: casgliad o 10 stori ar ffurf llên meicro', Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch 2004 (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol), tt. 123-127.

Owen, J. J. (2013), Gwe o Glymau Sidan (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch).

Rhys, M. (2005), 'Beirniadaeth: casgliad o 10 stori ar ffurf llên meicro', Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005 (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol), tt.131-135.

Stein, J. (gol) (1996), Micro Fiction (London: W.W. Norton & Company).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.