Llafaredd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Y gallu i siarad neu lefaru yw ‘llefaredd’ neu ‘lafaredd’. Ym maes Beirniadaeth a Theori, fe’i defnyddir gan amlaf mewn gwrthgyferbyniad â’r term ‘llythrennedd’ gan gyfeirio at gyflwr lle nad yw ysgrifennu a phrint yn rhan o’r gymdeithas. Cysylltir y term yn agos, felly, ag astudiaethau sy’n ymwneud â llenyddiaeth lafar. Rhoddwyd y sylfeini beirniadol ar gyfer y maes ymchwil hwn yn y 1920au gan Milman Parry a ddadleuodd fod y fformiwlâu a welir yng nghanu Homer wedi datblygu o ganlyniad i gyfansoddi llafar. Llwyddodd ei ddisgybl Albert Lord i ymestyn y maes yn ei glasur The Singer of Tales (1960) a dadlau bod cyfansoddi gan ddefnyddio themâu penodol yn ganolog i’r broses. Llenyddiaeth glasurol oedd hefyd wrth wraidd damcaniaethau Havelock (1963), a Goody a Watt (1968). Prif ddamcaniaeth y tri yw bod llythrennedd yn arwain at amryw o newidiadau cymdeithasol, llenyddol a gwybyddol. Datblygwyd eu syniadau ymhellach gan Walter Ong (1982) yn ei glasur Orality and Literacy: The Technologizing of the Word lle ceir cyflwyniad arbennig i faes astudiaethau llenyddiaeth lafar. Bu rhai anthropolegwyr a seicolegwyr gwybyddol, fodd bynnag, yn barod i feirniadu’r ‘Great Divide Theory’ a ddatblygwyd gan yr ysgolheigion hyn. Yn ôl Finnegan, er enghraifft, mae’r darlun yn fwy cymhleth o lawer a llefaredd a llythrennedd wedi cyd-fyw a chydblethu ar hyd y canrifoedd, ac yn parhau i wneud hynny.

Wrth drafod llefaredd mewn perthynas â llenyddiaeth, mae sawl ysgolhaig wedi ymdrechu i adnabod y technegau hynny sydd yn nodweddiadol o lenyddiaeth lafar, technegau sydd i raddau helaeth wedi datblygu oherwydd dylanwad y cof a’r perfformiad cyhoeddus. Mae adeiladwaith chwedlau llafar, er enghraifft, yn tueddu i fod yn gronolegol ac yn episodig gydag un llinyn i’r naratif a chydlynu cysylltiol yn elfen amlwg ynddynt, hynny yw cysylltir brawddegau a chymalau drwy gyfrwng cysyllteiriau megis ‘a’ neu adferfau cysylltiol megis ‘yna’. Mae ailadrodd hefyd yn amlwg – ailadrodd digwyddiadau, yn aml deirgwaith (weithiau i greu tensiwn), a hefyd ailadrodd cyfuniadau penodol o eiriau sef yr hyn a elwir yn ‘fformiwla’ (e.e. ‘amser maith yn ôl’). Fel y nodwyd uchod, dadleuodd Parry ac eraill mai rhan o gynhysgaeth perfformiad llafar y storïwr oedd y fformiwlâu hyn, a’u bod yn adlewyrchu system a grëwyd gan storïwyr i hwyluso’r broses o gyfansoddi ar lafar. Wrth gwrs, nid yw bodolaeth technegau o’r fath yn brawf mai ar lafar y cyfansoddwyd unrhyw destun – mae gofynion llefaredd a chlywededd yn gallu gadael eu hôl ar chwedlau ysgrifenedig, fel yn achos Y Mabinogion (gweler Davies, 1995). Ond un awgrym clir o drosglwyddo llafar yw’r amrywiaeth rhwng gwahanol fersiynau o destun, ynghyd ag amrywiad yn nhrefn llinellau mewn gwahanol fersiynau o gerddi, fel y dangosodd Dafydd Johnston (2003) yn achos barddoniaeth Dafydd ap Gwilym.

Un canlyniad i’r ymchwil i lefaredd a llenyddiaeth lafar yw’r symud i ffwrdd o’r syniad o un testun swyddogol, ‘gwreiddiol’ – mae pob fersiwn yn tueddu i fod yn wahanol gyda rhai elfennau sefydlog ac eraill yn fwy hyblyg. Dangosir hyn fel rheol mewn golygiadau traddodiadol o destunau llenyddol canoloesol, er enghraifft, drwy gyfrwng troednodiadau; eithr mae cyhoeddi electronig yn caniatáu inni gyflwyno fersiynau’n gyfochrog a hynny’n fodd i ddangos yn fwy eglur y broses ddeinamig o drosglwyddo llafar.

Sioned Davies

Llyfryddiaeth

Davies, S. (1995), Crefft y Cyfarwydd: Astudiaeth o dechnegau naratif yn Y Mabinogion ( Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Finnegan, R. H. (1988; golygiad newydd, 2014), Literacy and Orality: Studies in the Technology of Communication (Oxford: Blackwell).

Goody, J. a Watt, I. (1968), ‘The Consequences of Literacy’ yn Literacy in Traditional Societies, gol. Jack Goody (Cambridge: Cambridge University Press), tt. 27-68.

Havelock, E. A. (1986), The Muse Learns to Write: Reflections on Orality and Literacy from Antiquity to the Present (New Haven: Yale University Press).

Johnston, D. (2003), ‘ Dafydd ap Gwilym and Oral Tradition’, Studia Celtica, XXXVII, 143-61.

Lord, A. B. (1960), The Singer of Tales (Cambridge Mass.: Harvard University Press).

Ong, W. J. Ong, 1982, Orality and Literacy: The Technologizing of the Word (London and New York: Routledge)

Parry, M. (1971), The Making of Homeric Verse: The Collected Papers of Milman Parry, gol. A. Parry (Oxford: Clarendon)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.