Llygad-dyst

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Eyewitness

Y teitl a roddir i ohebwyr neu sefydliadau newyddion sydd yn y fan a’r lle wrth i’r newyddion ddatblygu. Mae bod yn ei chanol hi yn rhoi awdurdod i sefydliadau newyddion, ac mae sefydlu presenoldeb corfforol yn ei gwneud yn bosibl i ohebwyr gyflawni eu gwaith o adrodd ar y newyddion.

Mae bod yn llygad-dyst i’r newyddion mor ganolog i newyddiaduraeth fel bod y term yn aml yn cael ei ymgorffori yn nheitl a logos y sefydliadau newyddion ledled y byd. Yn aml, mae sefydliadau newyddion yn defnyddio gohebwyr fel llygad-dystion er mwyn adrodd am ddigwyddiadau na ellir eu cadarnhau, eu herio neu eu profi’n hawdd, ond mae’r adroddiadau’n fwy credadwy yn rhinwedd presenoldeb gohebydd ar y safle.

Mae presenoldeb llygad-dystion yn dangos pa mor ganolog yw’r dilysrwydd sy’n tyfu o gwmpas ‘bod yn ei chanol hi’ er mwyn sefydlu awdurdod adroddiad newyddion, yn enwedig felly mewn newyddiaduraeth rhyfel.

Ysgrifennodd Xenophon adroddiadau am ryfeloedd yn ystod cyfnod Crist, fel llygad-dyst cynnar, ac mae sawl enghraifft arall nodedig: Edward R. Murrow, yn darlledu ar y radio yn ystod yr Ail Ryfel Byd a rhaglenni dogfen cynnar See It Now; Richard Dimbleby (BBC) yn disgrifio erchyllterau carchar Belsen am y tro cyntaf yn 1945; Wynford Vaughan Thomas mewn awyren yn llygad-dyst i fomio Dresden; amryw o raglenni newyddion yn ystod dyddiau cynnar y teledu – Eye Witness NBC neu Eyewitness to History CBS – a ddarlledwyd yn ystod y 1960au; darllediadau enwog Peter Arnett o ryfel Fietnam a’r Rhyfel Gwlff Persia cyntaf; a’r amaturiaid a ffilmiodd ymosodiad Rodney King yn 1991 neu grogi Saddam Hussein yn 2006.

Yn ystod y 1960au cynnar yn Unol Daleithiau’r America (UDA), rhoddodd nifer o orsafoedd newyddion teledu lleol ystyr arall i ‘llygad-dyst’, gan ymgorffori newyddiaduraeth llygad-dystion fel enw masnachol ar wasanaeth newyddion lleol a oedd am fod yn fwy eangfrydig ac anffurfiol. Roedd y modd y cynigiai’r gorsafoedd newyddion ‘llygad-dystion’ lleol cyflwynwyr deniadol, ynghyd â phwyslais ar y gweledol, ar adroddiadau byw, ar fwletinau tywydd a chwaraeon, yn cyferbynnu â’r newyddion cenedlaethol. Roedd y sefydliadau newyddion cenedlaethol yn bychanu’r gorsafoedd lleol gan eu cyhuddo o or-ddweud a chyffroi’r gynulleidfa. Ond erbyn y 1990au, mabwysiadwyd y defnydd o lygad-dystion ar lefel leol fel rhan o bob rhaglen newyddion lleol yn UDA a defnyddiwyd y ffordd hon o newyddiadura gan yr Almaen, y Deyrnas Unedig, America Ladin a rhai gwledydd Dwyrain a Chanol Ewrop.

Mae beirniaid newyddiaduraeth llygad-dyst yn honni bod dibyniaeth newyddiaduraeth ar ffeithiau moel yn cael ei danseilio gan newyddiaduraeth llygad-dyst. Maen nhw’n honni bod y goddrychedd a’r dehongliad sy’n gysylltiedig â hynny yn tynnu oddi ar newyddiaduraeth traddodiadol sy’n dibynnu ar wrthrychedd. Serch hynny, mae eraill yn cefnogi newyddiaduraeth llygad-dyst fel ffurf benodol o ymgysylltu â’r byd.

O ystyried y tensiynau hyn, dadleuodd Zelizer (2007) bod hawlio presenoldeb fel llygad-dyst wedi cael ei ddefnyddio’n strategol gan sefydliadau newyddion dros amser, a bod y newyddion ‘llygad-dyst’ heddiw yn llai cysylltiedig â gohebydd enwog yn y fan a’r lle ac yn fwy cysylltiedig â newyddiadurwr-ddinesydd sy’n defnyddio ffonau symudol neu gamerâu byw cylch cyfyng i gasglu gwybodaeth. Yn y ddau achos, maen nhw’n caniatáu i’r cyfryngau newydd honni eu bod ‘wedi bod yno’ fel tystion i ddigwyddiadau nad oeddent mewn gwirionedd wedi eu tystio.

Llyfryddiaeth

Zelizer, B. 2007. ‘On having been there’: ‘eyewitnessing’ as a journalistic key word. Critical Studies in Media Communication. 24 (5), tt. 408–28.




Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.