Manwl gywirdeb

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Accuracy

Y stad o fod yn gywir ac yn union. Mae bod yn fanwl gywir yn ddelfryd sy’n gysylltiedig â safonau newyddiaduraeth niwtral neu wrthrychol. Mae’n gysylltiedig yn arbennig â phroffesiynoldeb, oherwydd mae disgwyliad i newyddiadurwyr ddarparu adroddiadau yn seiliedig ar ffeithiau, heb ddangos ffafriaeth i unrhyw safbwynt wrth adrodd ar ddigwyddiadau a materion y dydd.

Mae cywirdeb yn ymestyn ar draws pob agwedd ar stori newyddion – sillafu enwau ac enwau lleoedd, gramadeg cywir, dilyniant digwyddiadau, ynghyd â gwirio a dilysu honiadau. Mae cywirdeb yn gysylltiedig â chyfres o arferion newyddiadurol, gan gynnwys gwirio ffeithiau, holi barn eraill, rhoi pethau mewn cyd-destun, asesu manylion, dileu camgymeriadau a sicrhau bod ystod eang o safbwyntiau yn cael eu cynrychioli. Hyd yn oed pan fydd gan y newyddiadurwyr y gallu i fod yn gywir, nid yw bob tro’n hawdd ei gyflawni. Gall llygad dystion fod yn anghywir weithiau, gall ffynhonnell roi perspectif unochrog, a gall cyfyngiadau technegol rwystro’r gohebydd rhag rhoi adroddiad cywir.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.