Mawl

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Un o swyddogaethau sylfaenol barddoniaeth oddi ar y cyfnod Clasurol trwy’r Oesoedd Canol a chyfnod y Dadeni fu moli duwiau, pobl, pethau a llefydd. Roedd moliant yn gelfyddyd a gafodd ei chyfundrefnu gan rethregwyr a’i disgrifio mewn gramadegau barddol. Y weithred o addoli duwiau paganaidd yn y cyfnod cyn-Gristnogol sydd wrth wraidd yr arfer o foli, ac mae Llyfr y Salmau a briodolir i’r brenin Dafydd yn cynnwys caneuon mawl i Dduw Israel. Cymhwyswyd mawl i’r duwdod yn foliant seciwlar i ddynion daearol, yn frenhinoedd, penaethiaid ac uchelwyr, a chymhwyswyd moliant i bobl hefyd yn foliant i lefydd, yn drefi a dinasoedd.

Y cerddi moliant Cymraeg cynharaf yw cerddi Taliesin i Urien Rheged yn y 6g., ac arhosodd moliant yn gwbl ganolog i weithgarwch y beirdd am ganrifoedd wedyn. Mawl a marwnad oedd prif genres barddoniaeth cyfnod y Cynfeirdd a’r Gogynfeirdd hyd at ddiwedd cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Defnyddid topos arbennig i gyfleu fod arwr neu wrthrych y mawl yn hael a charedig mewn cyfnod o heddwch ac yn ffyrnig a thanllyd mewn cyfnod o ryfel. Parhaodd y topos hwnnw mewn rhyw ffurf neu’i gilydd hyd at ddiwedd cyfnod y gyfundrefn farddol yng nghanol yr 17g.

Yr hyn sy’n cyfateb yn y Gymraeg i’r gair Groeg kleos yw ‘clod’ a ‘moliant’, a’r syniad o enwogrwydd anfarwol. Adlewyrchir hynny gan y ddihareb, ‘Hwy clod na golud’, sy’n dweud bod gair o glod yn parhau am fwy o amser ac yn goroesi cyfoeth materol. Yr elfennau sylfaenol mewn cerdd foliant yw canmoliaeth i ach y noddwr a’i hynafiaid, mawl i’w haelioni, i’w ddewrder a’i filwriaeth yn ogystal ag i’w ddoethineb. Clodfori rhinweddau cadarnhaol oedd y nod. Amheuai rhai pa mor foesol oedd derbyn tâl am ganu moliant, fel yr adlewyrcha cwpled agoriadol un o gywyddau Gruffudd Llwyd (c.1380‒c.1420): ‘O Dduw, ai pechod i ddyn / Er mawl gymryd aur melyn?’ Gallai’r bardd gyfiawnhau gwneud hynny am mai mater o dalu da am dda ydoedd. Yr hyn a wnâi oedd moli daioni.

Erbyn diwedd yr 16g. tueddai llawer o’r cerddi mawl i fod yn ystrydebol ac undonog, a cheid rhai nad oeddynt yn gwneud dim ond rhaffu achau nes ymddangos ohonynt yn gatalogau achyddol lle roedd achres y noddwr yn cael ei mydryddu’n ddiarbed. Teimlai ambell fardd fod rhai pobl annheilwng yn cael eu moli, yn enwedig y rheini a elwid yn ‘waed newydd godi’, sef aelodau o’r dosbarth canol newydd, yn fasnachwyr, cyfreithwyr a meddygon. Hwy oedd y bobl heb waed brenhinol yn eu gwythiennau. Lleisiodd Siôn Tudur o Lanelwy (c.1522‒1602) y feirniadaeth hon yn groyw iawn yn ei gywydd adnabyddus ‘i ladd ar y beirdd’ gan ddadlau fod swydd y bardd wedi colli’i hurddas am fod beirdd y cyfnod yn dyrchafu pobl annheilwng yn unig er mwyn ennill arian:

Ninnau’r beirdd a wnawn, rai bas,
O’r arddwyr wŷr o urddas,
A rhoi achau rhy wychion,
A mawl i Siac mal i Siôn.
Pawb chwit chwat yn lladrata
Penillion prydyddion da.

Dirywio a wnaeth y traddodiad o foli am dâl erbyn tua 1650 pryd na cheid mwyach feirdd proffesiynol.

Bleddyn Owen Huws

Llyfryddiaeth

Burrow, J. A. (2008), The Poetry of Praise (Cambridge: Cambridge University Press).

Fulton, H. (2016), ‘Y Cywyddwyr a’r encomium urbis Cymreig’, yn Huws, B. O. a Lake, A. C. (goln), Genres y Cywydd (Talybont), tt. 163‒81.

Ifans, Rh. (2000), Gwaith Gruffudd Llwyd a’r Llygliwiaid Eraill (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: Aberystwyth), cerdd 14.

Roberts, E. (1980), Gwaith Siôn Tudur, I (Gwasg Prifysgol Cymru: Caerdydd), cerdd 151.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.