Meddiannaeth ardrethol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Meddiannaeth ardrethol [sef "rateable occupation"] yw'r feddiannaeth ar dir neu eiddo [drwy rydd-ddaliad neu drwy brydles] sydd yn arwain at atebolrwydd i dalu ardrethi busnes.

Mae yna nifer o feincnodau perthnasol, sydd yn deillio o gyfraith achosion. Mae’r meini prawf yn seiliedig ar egwyddorion ‘meddiannaeth lesiannol’ yn ogystal â meddiannaeth wirioneddol, barhaol a llwyr-gyfyngedig.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Valuation: Principles into Practice”, R. E. H. Hayward ac W. H. Rees, Estates Gazette, pumed argraffiad, tudalennau 38, 67, 83, 87,105, 106, 108, 112, 113, 422 a 568



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.