Milenariaeth/Milflwyddiaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Nodweddir llenyddiaeth filflwyddol gan filenariaeth. Athrawiaeth Gristnogol yw milenariaeth/milflwyddiaeth sy’n dysgu bod teyrnasiad o fil o flynyddoedd (y Milflwyddiant) o fendith nefolaidd i’w ddisgwyl cyn i’r byd gyrraedd ei stad dragwyddol ar ddiwedd amser. Law yn llaw â’r gred hon mae Ailddyfodiad Crist. Cred cyn-filflwyddwyr y dylid disgwyl y Milflwyddiant ar ôl yr Ailddyfodiad; mae ôl-filflwyddwyr yn disgwyl y Milflwyddiant cyn yr Ailddyfodiad. Fel llenyddiaeth eschatolegol, gwelir milenariaeth yn codi ei phen mewn cyfnodau cyffrous a thrychinebus sy’n arwain at newid sylfaenol mewn cymdeithas e.e. rhyfeloedd, newyn a diwygiadau crefyddol.

Disgwyl am waredwr ysbrydol neu grefyddol i adfer y genedl a wna Siôn Cent yn ‘Gobeithiaw a ddaw ydd wyf’ ond gwelir milenariaeth Gymraeg ar ei mwyaf egnïol yng ngwaith creadigol a chymdeithasol y Piwritaniaid a’r Methodistiaid. Mae’r elfen wleidyddol yn holl bwysig wrth drafod milenariaeth, ac am hyn, milenariaeth yw un o’r grymoedd mwyaf dylanwadol a fu ar waith yn llunio Cymru fodern. Cred milflwyddwyr nad gwybodaeth haniaethol a geir yn y Beibl ond mynegiant o weithredoedd Duw mewn hanes. Mae hanes dyn yn llinell felly sydd yn symud tuag at uchafbwynt gogoneddus. Teimlai milflwyddwyr iddynt gael eu galw i weithio er mwyn cyflawni’r uchafbwynt hwn. Wrth geisio llunio’r dyfodol dylid chwyldroi’r presennol.

Dyma sy’n esbonio gweithgarwch y Piwritaniaid yn ystod y Rhyfel Cartref (1642-1651) ac yna’r Weriniaeth hyd at 1660. Mae milflwyddiaeth yn galw am sylw manwl i berthynas Cristnogaeth a gwleidyddiaeth. Rhoddodd Vavasor Powell (1617-1670) a Morgan Llwyd (1619-1659) sylw i’r berthynas hon yn eu hymwneud â Phlaid y Bumed Frenhiniaeth. Credent hwy fod ail bennod Llyfr Daniel yn yr Hen Destament yn adrodd bod pedair teyrnas ddaearol yn mynd i ragflaenu teyrnasiad tragwyddol Iesu Grist. Gwelant Asyria, Persia a Groeg fel y gyntaf, yr ail a’r drydedd a Rhufain (Catholigiaeth) fel y bedwaredd a’r olaf. Rhaid felly fod Crist ar fin dyfod yn bersonol ac yn gorfforol i sefydlu’r bumed frenhiniaeth. Rhaid oedd trechu’r brenin daearol, rhaid oedd efengyleiddio’r ddaear (yn enwedig yr Iddewon) a threchu’r paganiaid. Am hyn, rhaid oedd i’r Saint (y Cristnogol) deyrnasu a pharatoi at ddyfodiad teyrnas Crist. Arweiniodd y gred hon at weithgarwch pellgyrhaeddol yng Nghymru ac yn enwedig yn y Gymraeg megis gwaith yn sgil Deddf Taenu’r Efengyl yng Nghymru (1650) a chyhoeddi corff o waith defosiynol.

Roedd milflwyddiaeth yn holl bwysig i fydolwg a chrefydd William Williams (1717-1791) o’r 1750au ymlaen. Yn ei gyfrol Aurora Borealis (1774) gwelwn ef yn datgan bod y Milflwyddiant yn gwawrio. Dywed fod yr aurora borealis yn un o’r arwyddion sy’n rhagfynegi ailddyfodiad Crist. Ymysg yr arwyddion eraill y mae llwyddiant byd-eang i’r efengyl a thröedigaeth yr Iddewon. Nid syndod felly i William Williams osod gwreiddiau a gweledigaeth mudiadau cenhadol mawr y 19g. drwy ei ryddiaith a’i farddoniaeth. Cred Thomas Charles (1755-1814) ei fod yntau yn byw yn y Milflwyddiant ac am hynny sefydlodd Gymdeithas y Beibl er mwyn hwyluso’i dyfodiad gan geisio efengyleiddio’r ddaear. Yn ogystal â hyn, roedd bendith nefolaidd y Milflwyddiant yn un ysbrydol a chorfforol. Am hynny gwelwn ddynion megis Morgan John Rhys (1760-1804) yn ymgyrchu yn erbyn y fasnach mewn caethweision gan fod rhyddid a chyfiawnder yn un o brif nodweddion y Milflwyddiant.

Gwelwn ym milenariaeth berthynas ddeinamig rhwng yr ysbrydol a’r gwleidyddol. Gwelwn mai dyma oedd y grym tu ôl i’r Rhyfel Cartref, gwaith y Piwritaniaid yng Nghymru a chymdeithasau a mudiadau cenhadol a gwrth-gaethwasiaeth y 18g. a’r 19g. Teg awgrymu mai milflwyddiaeth y Piwritaniaid a’r Methodistiaid a arweiniodd at radicaliaeth y 19g., a hynny felly yn awgrymu fod dylanwad milflwyddiaeth ar ddatblygiad Cymru yn yr oes fodern yn un pellgyrhaeddol.

Cynan Llwyd

Llyfryddiaeth

Cohen, A. (1963), ‘Two Roads to the Puritan Millennium: William Erbery and Vavasor Powell’, Church History, 32:3, 327-8.

Gribben, C. (2000), The Puritan Millennium: Literature & Theology, 1550-1682 (Dublin: Four Courts Press).

Hill, Ch. (1972), The World Turned Upside Down: Radical Ideas During the English Revolution (London:Penguin).

Jones, R. T. (1971), Vavasor Powell (Abertawe: Gwasg John Penry).

Owen, G. W. (2008), Cewri’r Cyfamod (Caernarfon: Gwasg y Bwthyn).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.