Moeseg

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Ethics

Egwyddorion arfer da sy’n berthnasol i newyddiaduraeth. Fe’i gwelir fel amddiffyniad yn erbyn camymddygiad newyddiadurol er budd y cyhoedd. Mae moeseg newyddiadurol hefyd yn gysylltiedig â throi newyddiaduraeth yn broffesiwn, ac wedi datblygu wrth i newyddiaduraeth ei hun newid. Er y caiff moeseg newyddiadurol ei fynegi mewn codau gweithredu cyffredinol sy’n gymwys i aelodau o gorff newyddion neu weithwyr cyfrwng penodol, daeth y cod moesegol cyntaf ar gyfer newyddiadurwyr yn Unol Daleithiau’r America i rym yn 1910, gan grŵp o olygyddion elitaidd a oedd eisiau canfod safonau gweithredu ar gyfer aelodau’r proffesiwn newydd.

Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o newyddiadurwyr mewn gwledydd democrataidd yn arddel syniad o gyfrifoldeb cymdeithasol, ac y dylent weithio er lles y cyhoedd. Mae’r codau moeseg yn cwmpasu cywirdeb, gwirionedd, didueddrwydd, amrywiaeth, tegwch ac atebolrwydd cyhoeddus. Maen nhw hefyd wedi ymateb i newidiadau mewn ymarferion newyddion, trawsnewidiadau mewn technoleg a rôl newyddiaduraeth a’i pherthynas â’r cyhoedd.

Mae troseddau moesegol wedi amrywio yn ôl arddull, cynnwys a ffurf. Maent yn cynnwys perthynas â ffynonellau, ymosodiad ar breifatrwydd, y gwrthdaro rhwng buddiannau, camddefnyddio lluniau newyddion, cwestiynau ynghylch tegwch ac amrywiaeth, twyll, camdriniaeth a llên-ladrad, ymhlith eraill.

Bu llu o ymdrechion i gydlynu egwyddorion cyffredin ar draws gwahanol godau moeseg: yr enghreifftiau mwyaf adnabyddus yw EthicNet (sy’n casglu codau moesegol o wledydd sy’n gysylltiedig â Chyngor Ewrop) a MAS (Media Accountability Systems, a ddatblygwyd gan Jean-Claude Bertrand yn 2000). At hynny, mae rhai arferion (megis yr ombwdsman, mudiadau ar gyfer beirniadu’r cyfryngau neu adolygiad newyddiaduraeth) wedi datblygu fel ffyrdd o orfodi’r arferion moesegol gorau posibl. Serch hynny, mae moeseg yn parhau i fod yn set anghydweddol o ddisgwyliadau ag egwyddorion.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.