Newyddiaduraeth eiriolaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Advocacy journalism

Math o newyddiaduraeth nad yw’n arddel egwyddorion niwtraliaeth, didueddrwydd a gwrthrychedd, ac felly’n dileu’r ffin rhwng newyddion a barn er mwyn cymryd safbwynt strategol bwriadol ar ddigwyddiadau a materion yn y newyddion, fel arfer ar gyfer pwrpas cymdeithasol neu wleidyddol.

Yn draddodiadol yn gysylltiedig â chwythwyr chwiban, neu â rhai sy’n corddi’r dyfroedd, ac â newyddiaduraeth amgen, gwelwyd newyddiaduraeth eiriolaeth fel esblygiad o arferion newyddiadurol gwasg drefedigaethol Unol Daleithiau’r America (UDA) neu wasg ranbarthol y 1800au. Mae newyddiadurwyr eiriolaeth yn credu bod newyddiaduraeth dda yn cael ei chyflawni wrth gymryd safiad, ac wrth wneud hyn, maen nhw’n datgan eu rhagfarn mewn ffordd agored a thryloyw.

Mae newyddiaduraeth eiriolaeth yn cyd-fynd â phleidgarwch gwleidyddol mewn llawer o leoliadau ledled y byd. Er enghraifft, mewn gwledydd a ddaeth yn annibynnol yn ddiweddar, roedd newyddiaduraeth yn aml yn gysylltiedig â mudiadau rhyddid gwrthdrefedigaethol. Ar ben hynny, hyd yn oed pan gafodd newyddiaduraeth eiriolaeth ei disodli gan wahanol fathau o newyddiaduraeth a oedd ar un olwg heb werthoedd amlwg, gellid dod o hyd i eiriolaeth mewn erthyglau golygyddol, colofnau a sylwebaeth darlledu, lle’r oedd disgwyl i newyddiadurwyr fynd i’r afael â’r newyddion o safbwynt penodol.

Heddiw, wrth i newyddiaduraeth a blogiau dinasyddion ddod yn fwy cyffredin, gyda rhai sefydliadau newyddion (fel Fox News neu bapurau ceidwadol yn UDA) yn adrodd ar ddigwyddiadau newyddion drwy bersbectif amlwg, mae newyddiaduraeth eiriolaeth wedi cael adfywiad.

Mae sefydliadau fel US National Conference for Media Reform neu’r Centre for Independent Media yn awr yn dadlau’n rheolaidd bod cyfuno ffaith a barn yn agwedd arall ar newyddiaduraeth, gan gefnogi’r farn gyfredol ei fod yn amhosibl gwahanu’r ddau.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.