Newyddion ar alw

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: News on demand

Y gallu i ddarparu newyddion trwy dechnoleg ar alw. Mae datblygiadau mewn caledwedd a meddalwedd digidol nawr yn caniatáu i ddefnyddwyr dderbyn y newyddion bron unrhyw le ar unrhyw adeg trwy nifer o ddyfeisiadau, sy’n eu galluogi i archebu rhaglenni newyddion ar unrhyw adeg a chynnig dewislen bersonol iddynt.

Mae technoleg ddiwifr, yn arbennig, yn golygu bod modd darparu diweddariadau newyddion yn uniongyrchol i ffonau symudol. Mae rhai’n dadlau bod hyn yn gosod defnyddwyr wrth wraidd y cyfryngau newyddion.

Mae beirniaid, fodd bynnag, yn credu ei fod yn gyfrifol am leihau’r nifer o storïau newyddion o ansawdd oherwydd bod newyddiadurwyr yn canolbwyntio gormod ar y cyhoedd fel defnyddwyr.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.