Newyddion sy'n torri

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Breaking news

Math o newyddion sy’n datblygu ar hyn o bryd ac yn cael ei gyflwyno wrth iddo ddigwydd neu mor agos â phosibl at amseriad y digwyddiad.

Pan fydd newyddion yn torri, mae’n rhaid gwneud penderfyniadau cyflym dan bwysau. Mae’r risg yn uchel, yr amgylchiadau’n anrhagweladwy, a bydd rhaid ailddyrannu adnoddau’n gyflym, ynghyd â phenderfynu beth fydd y stori pan gaiff ei darlledu neu ei chyhoeddi mewn papur newydd. Felly mae gofyn bod staff y sefydliad newyddion yn gyfarwydd ag arferion safonol a threfniadau trylwyr.

Mae colli stori newyddion sy’n torri yn groes i hanfod newyddiaduraeth, sef adrodd ar faterion newydd, felly mae newyddiadurwyr yn cysylltu newyddion sy’n torri â set o ddisgwyliadau’r grefft o newyddiadura, sef bod yn hyblyg, yn drefnus, yn eglur ac yn gyflym.




Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.