Papur newydd am ddim

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Freesheet

Papur newydd a roddir i aelodau’r cyhoedd am ddim. Mae eu costau cynhyrchu’n cael eu talu fel arfer gan hysbysebwyr sydd am hyrwyddo eu negeseuon i gynifer o ddarllenwyr â phosibl.

Mae enghreifftiau’n amrywio o ymdrechion unigolion sy’n cynhyrchu taflenni i’w dosbarthu o fewn y gymdogaeth neu’r gymuned leol (e.e. eitemau newyddion a gyflwynir ar ddalennau papur wedi eu llungopïo a’u plygu i wneud cylchlythyr), hyd at bapurau newydd a chylchgronau swmpus sydd â dosbarthiad eang (gyda chefnogaeth y cyrff newyddion cenedlaethol) ar y pegwn arall.

Yn anaml, darperir arian gan noddwr corfforaethol neu caiff y cyhoeddwyr gymhorthdal gan y llywodraeth.

Mae beirniaid yn dadlau bod rhoi papurau newydd am ddim yn tanseilio’r farchnad ar gyfer gwerthu papur newydd, a bod y cynnwys fel arfer yn ddiffygiol o ran ansawdd.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.