Peers, Donald (1909-73)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Canwr poblogaidd a fu’n hynod lwyddiannus fel crwniwr baledi telynegol hyd yn oed wedi i arddull roc a rôl ddechrau trawsnewid cerddoriaeth boblogaidd. Roedd yn un o’r cantorion Prydeinig poblogaidd cyntaf wedi’r rhyfel i ennill llu o ddilynwyr. Roedd hefyd yn un o’r rhai cyntaf yn y cyfnod hwn i lwyddo ar sail recordiau gramoffon a darlledu ar y radio.

Roedd magwraeth Peers yn un anarferol. Er iddo gael ei eni yn Rhydaman, roedd ei deulu’n ddilynwyr ffyddlon i fudiad crefyddol y Plymouth Brethren, a hynny wedi i’w rieni gwrdd yn America pan oedd y ddau’n byw yno. Sais oedd ei dad, a aethai i America i wneud ei ffortiwn, a’i fam, a hanai o Ystalyfera, yno yn y gred y gwnâi’r hinsawdd les i’w hiechyd bregus. Ar ôl priodi, daethant yn ôl i Gymru a sefydlu cenhadaeth dros y Plymouth Brethren yn Rhydaman. Teimlai’r Donald ifanc fod y cod crefyddol y glynai ei rieni wrtho, a’r tueddiadau diwylliannol a oedd ynghlwm ag ef, yn ei fygu. Ei unig ddihangfa fel llanc yn ei arddegau oedd y breuddwydion a gâi eu symbylu yn y sinema leol yr oedd un o’i ewythrod yn ei rhedeg, a’r casgliad gwych o recordiau gramoffon poblogaidd yr oedd ewythr arall yn caniatáu iddo’u defnyddio. Er iddo actio pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, nid oes tystiolaeth iddo berfformio cerddoriaeth yn ei ieuenctid.

Roedd y rhwyg â’i deulu (ac â gwlad ei eni, maes o law) yn un ddramatig. Daethai Peers yn gyfeillgar â phaentwyr teithiol a oedd wedi eu cyflogi i baentio gorsaf reilffordd Rhydaman, a’r noson cyn ei ben-blwydd yn un ar bymtheg oed, a hithau’n amser i’r teithwyr adael Rhydaman ar ôl gorffen eu gwaith, cododd yntau ei bac a dianc gyda hwy. Ymddengys mai tra oedd yn gweithio fel peintiwr rheiliau a mân adeiladau cyhoeddus y dechreuodd ganu mewn lleoliadau digon cyffredin, fel clybiau gweithwyr, yng ngogledd Lloegr. Ac yntau’n peintio yn Aldershot (mewn barics o eiddo’r fyddin) cafodd gyfle i gystadlu yn un o ornestau talentau Fred Karno; enillodd, a’r digwyddiad hwnnw oedd y trobwynt yn ei yrfa.

Erbyn 1928 roedd yn cymryd rhan yn theatrau enwog Moss Empire ac yn perfformio ar raglenni radio’r BBC. Ar ôl y rhyfel y recordiodd ei gân fwyaf enwog, ‘There’s a shady nook by a babbling brook’, a ddaeth yn eithriadol o boblogaidd yn fuan iawn. Am gyfnod, roedd yn un o’r sêr yr oedd mwyaf o alw amdanynt. Gyda dyfodiad roc a rôl, edwinodd ei boblogrwydd, ond hyd yn oed wedi i’r Beatles gyrraedd y brig cafodd ddau lwyddiant rhyfeddol: saethodd ‘Please don’t go’ a ‘Give me one more chance’ ill dwy i’r siartiau yn niwedd yr 1960au. Roedd hynny ychydig flynyddoedd yn unig cyn ei farwolaeth mewn cartref nyrsio yn Brighton.

Roedd Peers yn un o’r cantorion poblogaidd mwyaf a gynhyrchodd Cymru ac mae’n haeddu ei le wrth ochr Tom Jones a James Dean Bradfield fel enghraifft o gyfraniad y wlad i’r diwydiant cerddoriaeth. Mae’r tri hyn yn perthyn i’w cyfnodau: eu harddull yn unigryw, a hwythau wedi adlewyrchu a chreu chwaeth y cyfnodau y buont yn serennu ynddynt. Am gyfnod byr y bu Peers yn un o enwau mawr y diwydiant cerddoriaeth boblogaidd, ond mae’n debyg i’w fri barhau am gyfnod hwy nag y byddai llawer o sylwebyddion cyfoes wedi’i dybio.

Trevor Herbert

Llyfryddiaeth

  • D. Peers, Pathway (Llundain, 1951)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.