Peilin, Robert (c.1575-c.1638)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Bardd, telynor ac awdur traethawd cerddorol dysgedig yn Gymraeg o’r enw Josseffüs. Roedd yn frodor o Dir yr Abad, Hafod y Dref, ar gyrion Ysbyty Ifan ger Pentrefoelas. Cyfeirir ato fel pencerdd mewn cywydd a gyfansoddwyd yn 1605 gan Edwart ap Raff (bl.1578–1606), ac awgrymir ei fod yn agos at angau mewn cerdd o 1638 gan Watcyn Clywedog (bl.c.1630–50).

Bu Peilin yn gwasanaethu nifer o noddwyr, gan gynnwys Wiliam Gruffudd o’r Garreg Lwyd, Môn, ac Ambrose Thelwall (1570-1652) o Blas y Ward ger Dinbych. Yn ystod yr 1590au fe’i rhestrir fel telynor ymhlith gwŷr wrth gerdd eraill ym Miwmares, Môn a Lleweni (a oedd hefyd yng nghyffiniau Dinbych), cartref teulu dylanwadol Salusbury. Hyd yma, ni chafwyd hyd i enw Peilin ei hun yn unrhyw rai o gofnodion llys brenin Lloegr, er i sawl un o’i gyfoeswyr honni iddo wasanaethu (fel ei gydymaith Robert ap Huw – y cafodd ei gymharu ag ef gan y bardd Huw Machno yn y ‘Cywydd i ofyn telyn gan Robert ap Huw dros Huw Llwyd’ (c.1618)) fel telynor yn llys Iago, ac er bod ei statws fel ‘telynor gras y goron’ yn cael ei ailadrodd sawl gwaith. Ac mae ei ach (sy’n dilyn testun y traethawd Josseffüs yn Llsgr. Caerdydd Hafod 3) yn diweddu â’r geiriau ‘Llyma Jach Robeart Peilin gwas y Brenin – Iago I’. Cadarnhaodd dau o’r beirdd fod i Peilin enw fel gŵr o ddysg. Honnodd Huw Machno ei fod yn dysgu’r ‘desgant’ ac awgryma ei ddealltwriaeth o theori gerddorol gynnar a gynrychiolir gan y cymeriadau mytholegol Groegaidd ‘Amphion’ ac ‘Oreion’; cyfeiriodd Cadwaladr Caesail yntau at ei wybodaeth ddofn c.1620 – ‘llwm oeddwn lle mae addysc / llawen oedd ef llawn o ddysc’.

Mae traethawd Peilin, Josseffüs, sy’n cynnwys 9,000 o eiriau, yn sicr yn amlygu’r ddysg honno. Nid yn unig y mae’r testun yn adlewyrchu dylanwad syniadau Ewropeaidd ehangach ond mae hefyd yn ymgorffori nodweddion geirfa a dysg cerdd dant yr Oesoedd Canol (gw. hefyd Cynnar, Cerddoriaeth). Y prif fodel, fodd bynnag, yw’r traethawd Musice active micrologus (Leipzig, 1517) a ysgrifennwyd gan Andreas Voglehofer neu ‘Ornithoparcus’ (ganed c.1490) – y mae bron yn sicr i Peilin droi at y cyfieithiad Saesneg diweddar gan John Dowland, Andreas Ornithoparcus his Micrologus or Introduction containing the art of singing (Llundain, 1609).

Serch hynny, mae dull Peilin o ymdrin â’r deunydd yn llawer mwy na chyfieithiad pur i’r Gymraeg, a’i ffordd ychydig yn ddi-drefn. Fel y mae’n sefyll, mae testun Josseffüs yn defnyddio chwe phrif faes yn unig o destun gwreiddiol Ornithoparcus, gan hepgor pob un o benawdau’r penodau a’r isadrannau; mae’r fframwaith gwreiddiol hefyd yn aml yn mynd o’r golwg oherwydd mynych wyriadau Peilin. Cyfieithodd Peilin yn ogystal rannau o Etymologiarum Isidor o Sevilla a rhannau o waith Thomas Morley, Plaine and Easie Introduction to Practical Musicke (1597), gan efelychu ffurf yr olaf drwy gyflwyno rhannau o’i destun ei hun ar ffurf ymgom rhwng meistr a disgybl. Mae eu henwau’n adleisio dau awdurdod hanesyddol - ‘Isiderys’ (Isidor o Sevilla ei hun) a ‘Josseffüs’, yr hanesydd Iddewig-Rufeinig o’r ganrif gyntaf a ysgrifennodd Hynafiaethau’r Iddewon (c.94). Daeth y testun hwn yn hynod boblogaidd ym Mhrydain yn ystod oes Peilin: cyhoeddwyd fersiwn Groeg gyda sylwadau Lladin yn yr 1590au, ac ymddangosodd cyfieithiad Saesneg newydd sbon yn 1602, gydag ail argraffiad yn 1609.

Tynnodd Peilin yn helaeth hefyd ar ei dreftadaeth farddol Gymreig ei hun: yn wir, mae’n datgan mai ei fwriad oedd cyflwyno trafodaeth ar ‘kerdd delyn’ fel offeryn dysg ar gyfer ieuenctid yng Nghymru. Nid yw’n syndod fod ei destun yn adlewyrchu rhai o reolau Statud Gruffudd ap Cynan, a gysylltir ag eisteddfodau Caerwys 1523 ac 1567, er na chrybwyllir hynny’n uniongyrchol. Mae ‘artist’ testun Dowland sy’n cyfansoddi ei ganeuon ei hun yn troi’n ‘gwevthrawdr a wnelo kwlwm a chaniad’ (‘gwneuthurwr cwlwm a chaniad’), a ‘poets’ Dowland sy’n creu penillion ‘by natural instinct’ yn troi’n ‘brydyddion ac sydd yn gwnevthr kowyddav a odlav’ (‘beirdd sy’n gwneud cywyddau ac awdlau’).

Ac yn lle’r ‘cantor’ a ddisgrifir gan Ornithoparcus a Dowland yntau, ceir y datgeiniad cerdd dant, sy’n canu deunydd parod. Mae’r dylanwad barddol brodorol yn arbennig o gryf yn adran olaf y traethawd, lle mae Peilin yn mynd ati ei hun i gysoni cyweiriau arbennig cerdd dant (y mae eu dehongli yn dal yn anodd i ysgolheigion a datgeiniaid heddiw) â’r system foddol a ddisgrifir gan Ornithoparcus, ac â theori chwechord fwy diweddar (a seilir yma i raddau helaeth ar waith Thomas Morley).

Sally Harper

Llyfryddiaeth

  • Irwen Cockman, ‘Traethawd ar Gerddoriaeth gan y Telynor Robert Peilin (c.1613)’ (traethawd MPhil Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1999)
  • ———, ‘Robert Peilin (c.1575–c.1638) “Josseffüs”, ei Draethawd ar Gerddoriaeth’/‘Robert Peilin (c.1575– c.1638) and his Essay on Music, “Josseffüs”,’ Hanes Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music History, 4 (2000), 39–87
  • Sally Harper, Music in Welsh Culture before 1650 (Aldershot, 2007), 121–30



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.