Prifysgolion a Cherddoriaeth yng Nghymru

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Y term cywir yn ieithwedd heddiw fyddai ‘Addysg Uwch a Cherddoriaeth yng Nghymru’, ond ni fyddai hynny’n llawn gyfleu pwysigrwydd parhad cyfundrefn y brifysgol i gerddoriaeth Cymru. Defnyddir y term hwn i olygu’r cyrff sy’n dyfarnu neu a fu’n dyfarnu graddau mewn cerddoriaeth, hynny yw, y prifysgolion a’r hyn a elwir wrth fynd i’r wasg yn Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Hyd 1992, yr unig brifysgolion yng Nghymru oedd y rhai a oedd wedi dechrau’n annibynnol ond a ddaeth at ei gilydd i ffurfio ffederasiwn o golegau Prifysgol Cymru. Roedd gan dri o’r colegau hynny adrannau cerddoriaeth: Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy (Prifysgol Caerdydd yn ddiweddarach) a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru (Prifysgol Bangor yn ddiweddarach). Daeth newid ar ôl 1992 o ganlyniad i basio’r Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch y flwyddyn honno, a roddodd yr awdurdod i ragor o sefydliadau ddyfarnu graddau bagloriaeth. Disgrifir canlyniadau’r newid hwn isod.

Mae’n anodd gor-ddweud pa mor bwysig fu’r prifysgolion i gerddoriaeth yng Nghymru ers diwedd y 19g., a gellir nodi tair nodwedd i danlinellu’r pwysigrwydd hwn. Yn gyntaf, roedd modd i fyfyrwyr dawnus o Gymru gael hyfforddiant arbenigol o safon uchel mewn cerddoriaeth yng Nghymru heb orfod teithio allan o’r wlad. Yn ail, darparai sefydliadau lle gellid astudio a pherfformio cerddoriaeth Cymru, gan gynnwys gosodiadau o destunau Cymraeg, ochr yn ochr â chlasuron Ewrop. Ac yn drydydd, ac efallai mai dyma’r nodwedd bwysicaf oll, mae’r prifysgolion wedi darparu llawer o’r seilwaith sefydliadol creiddiol sydd wedi cynnal a hyrwyddo’r holl ymdrech gerddorol. Maent wedi cynhyrchu cyfansoddwyr, perfformwyr, academyddion, gweinyddwyr ac athrawon sydd wedi mynd rhagddynt i weithio ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol a chymunedol, gan ennill clod a bri ond hefyd gan gynnal yn aml draddodiadau amatur y wlad.

Efallai fod Cymru’n unigryw yn hyn o beth: fel yr awgrymir isod, dylid mesur ymdrechion arloeswyr cynnar addysg gerddoriaeth mewn prifysgol yn erbyn amrywiaeth ehangach o lwyddiannau na’r rhai a enillwyd ganddynt yn unigol fel cyfansoddwyr neu ysgolheigion. Fel addysgwyr cynigient addysg gerddoriaeth soffistigedig i bobl ifanc, o gefndiroedd hynod dlawd yn amlach na pheidio, na fyddent y mae’n debyg wedi cael cyfleoedd o’r fath fel arall. Cyn dyfodiad y BBC i Gymru, cyfundrefn y brifysgol a’r rhwydweithiau cyn-fyfyrwyr a ddarparai’r prif seilwaith sefydliadol ar gyfer bywyd cerddorol yn y wlad.

Sefydlwyd yr adran gerddoriaeth brifysgol gyntaf yn Aberystwyth fel Coleg Prifysgol Cymru yn 1874. Penodwyd Joseph Parry yn Athro Cerddoriaeth a gwnaeth y pwyllgor gwaith ef yn gyfrifol am ‘godi safon cerddoriaeth yn y genedl yn gyffredinol [a gweithredu fel] carreg sarn [i symud cerddorion Cymru] o gôr y pentref i’r Academi Gerdd Frenhinol’. Mewn gwirionedd roedd y pwyllgor gwaith yn rhoi mwy o glod i’r Academi Frenhinol nag a haeddai mae’n bur debyg, ond ni wnaeth hynny ddim i rwystro Parry (un o’i chyn-ddisgyblion) rhag rhoi pwyslais ar gwricwlwm a fyddai’n gwneud cyfiawnder â chlasuron y canon yn ogystal â meithrin cerddoriaeth Cymru. Yn anffodus, gadawodd Aberystwyth yn 1880, dan dipyn o gwmwl, ac fe’i holynwyd gan David Jenkins (hyd 1915), Walford Davies (1919-26), David de Lloyd (1927-48), Charles Clements (1948-50), Ian Parrott (1950-1983) a David Wulstan, a oedd yn y gadair pan gaewyd yr adran yn 1989 gan beri cryn alar.

Dim ond dwy brifysgol arall yng Nghymru a oedd yn meddu ar adrannau cerddoriaeth cyn diwedd yr 20g. Un oedd Prifysgol Caerdydd (yn wreiddiol Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy), a wnaeth hefyd benodi Joseph Parry yn bennaeth ei hadran gerddoriaeth yn 1888, i olynu Clement Templeton, a oedd yn bennaeth yr adran pan sefydlwyd y coleg yn 1883. Y pennaeth adran a fu yn ei swydd hwyaf oedd yr Athro David Evans, a benodwyd yn 1908 yn Athro cerddoriaeth cyntaf y Brifysgol ac a wasanaethodd am dros ddeng mlynedd ar hugain. Ymhlith yr Athrawon diweddarach bu’r ysgolhaig Palestrina, Joseph Morgan, a’r cyfansoddwr Alun Hoddinott. Sefydlwyd Prifysgol Bangor fel Coleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1884, ond ni sefydlwyd yr adran gerddoriaeth tan 1921. Sefydlwyd yr adran gerddoriaeth gan Brifysgol Cymru (y Brifysgol ffederal a ffurfiwyd yn 1893), yr oedd ei Chyngor wedi penodi Walford Davies y flwyddyn honno yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Cymru (yr unig berson i ddal y swydd honno) ac yn Athro cerddoriaeth yn Aberystwyth yr un pryd. Roedd gweithredu fel cadeirydd Cyngor Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru hefyd yn rhan o gyfrifoldebau Walford Davies. Rhan o’r bwriad wrth ehangu darparu graddau cerddoriaeth y tu hwnt i Aberystwyth a Chaerdydd hefyd oedd cael adrannau cerddoriaeth y Brifysgol i wasanaethu cymunedau lleol y colegau. Ymhlith yr Athrawon cerddoriaeth ym Mangor bu D. E. Parry Williams a’r cyfansoddwr William Mathias.

Ni fu adrannau cerdd erioed yng ngholegau cyfansoddiadol eraill Prifysgol Cymru, sef Abertawe a Llanbedr Pont Steffan, ond bu cerddorion ar staff eu hadrannau allanol, a bu gan Brifysgol Abertawe Gyfarwyddwr Cerddoriaeth a drefnai gerddoriaeth ymarferol ac a gyfrannai at rai o’r rhaglenni rhyngddisgyblaethol. Gwnaed cyfraniad pwysig i fywyd cerddorol hefyd gan y colegau hyfforddi athrawon yng Nghymru, a leolwyd ar wahanol adegau ym Mangor, Wrecsam, Caerfyrddin, Abertawe, Y Barri, Caerdydd a Chaerllion.

Sefydlwyd y Brifysgol Agored yng Nghymru yn 1969 fel cangen ‘ranbarthol’ (un genedlaethol Gymreig yn ddiweddarach) i’r sefydliad ym Mhrydain gyfan, a defnyddiai ddull dysgu o hirbell radical ac amlgyfrwng. Bu cerddoriaeth bob amser yn rhan o gwricwlwm amlddisgyblaeth y Brifysgol.

Daeth pasio Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 â sawl newid i’r sector addysg uwch a gafodd ddylanwad pwysig ar gerddoriaeth. Y ddau newid pwysicaf oedd sefydlu prifysgolion newydd drwy godi statws y colegau polytechnig a’u gwneud yn brifysgolion (cyn hynny, nid oedd gan golegau polytechnig bwerau dyfarnu graddau a chaent eu dilysu gan gorff a gwmpasai’r Deyrnas Unedig, sef y Cyngor Dyfarniadau Academaidd Cenedlaethol). Y newid mawr arall oedd codi statws Coleg Cerdd a Drama Cymru a’i wneud yn gorff dyfarnu graddau. Yn 2002, fe’i gwnaed yn Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a’i alinio maes o law â Phrifysgol Morgannwg (sef Coleg Polytechnig Morgannwg yn flaenorol).

Sefydlodd Prifysgol Morgannwg, a ailenwyd yn Brifysgol De Cymru yn 2013, hefyd adeilad mawr a thrawiadol yng nghanol Caerdydd dan yr enw ATRiuM, ond a elwir yn ffurfiol yn Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd. Mae’r Adran Cerddoriaeth a Sain, fel yr awgryma’r teitl, wedi’i neilltuo’n fwy i idiomau poblogaidd modern nag i’r traddodiadau cerddoriaeth gelfyddydol, ac mae’n arbenigo mewn dylunio a chynhyrchu technegol a graddau mewn technoleg cerdd.

Trevor Herbert



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.