Protheroe, Daniel (1866-1934)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr a aned yn Ystradgynlais, Sir Frycheiniog. Cafodd ei fagu yn sŵn cerddoriaeth capel y teulu yng Nghwmgïedd, a dylanwadodd y traddodiad hwnnw yn drwm arno: tystiai fod cynifer â saith o gymanfaoedd canu yn cael eu cynnal yn yr ardal ar ddydd Llun y Pasg yn unig. Roedd canu corawl hefyd yn ymddatblygu yng nghyfnod ei blentyndod, a bu ei dad a’i fam yn aelodau o Gymdeithas Gorawl Dyffryn Tawe, dan arweiniad William Griffiths (Ifander). Dylanwad arall oedd y bandiau drwm a phib a deithiai i’r ardal i berfformio ar y strydoedd (gw. hefyd Bandiau Militaraidd).

Fe’i prentisiwyd yn deiliwr yn siop ei ewythr, ond dysgodd sol-ffa ac elfennau cerddoriaeth yng nghapel Cwmgïedd gyda Philip Thomas a J. T. Rees. Ymddangosodd fel unawdydd yn canu alto ac ennill yn Eisteddfod y Deheudir yn 1880. O fewn ychydig, dechreuodd arwain, ac yn ddeunaw oed aeth â chôr o Gwmgïedd i gystadlu mewn eisteddfod yn Llandeilo a chael gwobr gyntaf. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1886, wedi clywed gan berthynas iddo am y cyfleoedd a oedd ar gael yn y Byd Newydd, ymfudodd i Scranton, Pennsylvania, a bu’n byw yn Unol Daleithiau America weddill ei oes. Roedd Scranton yn ganolfan i fywyd Cymraeg yn y cyfnod hwnnw, a dechreuodd Protheroe arwain corau ymhlith y Cymry. Dywedir mai ef oedd y cyntaf i berfformio oratorio gyda cherddorfa yn Scranton. Daeth yn ddinesydd Americanaidd yn 1891. Priododd Hannah Harris, un o Gymry Scranton a oedd wedi’i geni yn Nhredegar, a chawsant ddwy ferch a mab.

Yn 1890 graddiodd yn MusBac ym Mhrifysgol Toronto, ac yn 1910 cafodd ddoethuriaeth gan Brifysgol Talaith Efrog Newydd. Yna yn 1894 symudodd i Milwaukee, lle bu’n arwain y gân yn yr Eglwys Fedyddiedig. Oddi yno aeth yn 1908 i Chicago yn gyfarwyddwr cerdd y Central Church, un o eglwysi mwyaf y ddinas, ac i ddysgu yn rhai o’r ysgolion cerdd lleol. Arweiniodd nifer o gorau yn Milwaukee ac yn Chicago, ac yn 1926 sefydlodd gôr meibion Cymreig yno. Yn 1918 golygodd lyfr emynau a thonau dwyieithog, Cân a Mawl, at ddefnydd Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yng Ngogledd America.

Astudiodd Protheroe gyda dau o gerddorion blaenllaw yr Unol Daleithiau, Edward Macdowell (1860-1908) a Dudley Buck (1839-1909). Datblygodd yn gyfansoddwr toreithiog, ond cerddoriaeth leisiol oedd ei gryfder. Ei weithiau mwyaf arhosol yw ei gytganau grymus i gorau meibion, megis Nidaros (i eiriau gan Longfellow) a Milwyr y Groes, a’r caneuon i blant a luniodd i eiriau Nantlais, sy’n cynnwys caneuon megis ‘Mynd drot drot’ a ‘Lili wen fach’, y daethpwyd i’w hystyried bron yn ganeuon gwerin (gw. hefyd Hwiangerddi). Cenir rhai o’i emyn-donau o hyd, megis ‘Price’, ‘Wilkesbarre’, ‘Cwmgïedd’ a ‘Milwaukee’. Credai’n gryf ym mhwysigrwydd alaw ac mae ei waith yn felodaidd heb gymhlethdod technegol.

Dychwelodd i Gymru’n rheolaidd i feirniadu mewn eisteddfodau ac i arwain cymanfaoedd canu a gwyliau corawl. Bu farw yn Chicago.

Rhidian Griffiths

Llyfryddiaeth

  • Daniel Protheroe, Nodau damweiniol a d’rawyd o dro i dro (Lerpwl, 1924)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.