Randles, Edward (1763-1820) ac Elizabeth Randles (1798-1829)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y telynor a’r organydd Edward Randles yn Wrecsam; roedd yn ddall o oedran cynnar ond meddai ar ddawn gerddorol. Astudiodd y delyn gyda John Parry, Rhiwabon (c.1710–82), ac efallai iddo gael gwersi ganddo ar yr organ hefyd. Yn 1788 fe’i penodwyd yn organydd yn Eglwys Blwyf Sant Silin, Wrecsam, swydd y bu ynddi hyd ei farwolaeth ar 23 Awst 1820 yn 57 oed.

Yn Rhagymadrodd ei gyfrol 1809, dywed George Thomson (1757-1851), a glywodd Randles yn perfformio, ei fod yn canu’r delyn yn osgeiddig, yn fywiog ac yn llawn mynegiant. Ategir hynny gan John Parry (Bardd Alaw; 1776–1851), a oedd yn adnabod y teulu, wrth ysgrifennu yn ei gyfrol A Selection of Welsh Melodies ... (1809):

y mae nid yn unig yn crisialu arddull egnïol ei feistr, ond yn gwneud hynny â gosgeiddrwydd a cheinder, ac ef bellach yw’r telynor mwyaf gwyddonol yng Nghymru; gellir ei restru’n haeddiannol ymysg y gorau yn y deyrnas.

Roedd tair merch Edward Randles a’i wraig Mary (a fu farw o’i flaen yn 1803 yn 44 oed) yn gerddorol, ond Elizabeth Randles oedd y fwyaf enwog, fel ‘plentyn rhyfeddol’, pianydd, telynores ac athrawes. Yn ôl Palmer fe’i ganed ar 28 Awst 1798. Buan y daeth ei doniau’n amlwg, a pherfformiodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf (fel pianydd) yn ddwy oed. Mae sylw Parry, y medrai ‘daro unrhyw nodyn ar y piano, y gallai llais ei ganu, heb oedi dim’, yn awgrymu bod traw perffaith ganddi. Mae’n debyg mai yn sgil diddordeb Syr Watkin Williams Wynn y perfformiodd (gyda’i thad) gerbron y Brenin George III, y Frenhines Charlotte ac aelodau eraill o’r teulu brenhinol, gan dderbyn can gini gan y brenin a chynnig i’w mabwysiadu gan Dywysoges Cymru - cynnig a wrthodwyd gan ei thad.

Ddydd Sadwrn 18 Mehefin 1803 rhoddwyd budd-frecwast ar ei chyfer yn Cumberland Gardens (ger Vauxhall) a’r nawdd dan arweiniad Tywysog Cymru. Roedd ei rhaglen yn cynnwys sawl alaw ag amrywiadau, rondos a deuawdau (gyda’i thad) a chodwyd dros 500 gini i hyrwyddo addysg gerddorol y ferch dair a hanner oed. Yr un flwyddyn rhoddodd ei pherfformiad cyhoeddus cyntaf fel cantores. Yn chwech oed mae Parry’n dweud y gallai chwarae’r cyfansoddiadau mwyaf gwyddonol, a chanu unrhyw gân ar yr olwg gyntaf. Denodd ei henwogrwydd Moses Griffith (1749-1819) i beintio miniatur ohoni c.1804.

Teithiodd o amgylch Prydain yn 1807 ac 1808 fel aelod o driawd gyda’i thad a Parry. Ym mis Mehefin 1808 perfformiodd yn ystafelloedd Hanover Square, unwaith eto gyda Thywysog Cymru’n arwain y nawdd. Yn 14 oed, dywedwyd ei bod yn canu’r piano’n ‘feistrolgar’. Roedd hefyd wedi dysgu canu’r delyn a’r organ a dywedir iddi’n aml gymryd lle ei thad fel organydd yn Wrecsam a chynnwys perfformiadau ar y delyn yn ei chyngherddau cyhoeddus.

Pan fu farw ei thad yn 1820 aeth i fyw gyda’i chwiorydd yn 5 Great Newton Street, Brownlow Hill, Lerpwl, ac oddi yno bu’n dal i roi cyngherddau ledled y wlad. Dechreuodd wneud enw hefyd fel athrawes. Dirywiodd ei hiechyd a bu farw ym mis Mai 1829. Fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Silin.

David R. Jones

Llyfryddiaeth

  • Alfred Neobard Palmer, The History of the Parish Church of Wrexham... (Wrecsam a Chroesoswallt, 1886; Wrecsam, 1984)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.