Rees, A. J. Heward (g.1935)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddor eang ei ddiddordebau, darlithydd a hanesydd cerddoriaeth yng Nghymru a fu’n flaenllaw ac yn allweddol yn yr adfywiad cerddorol a gafwyd yn ail hanner yr 20g. Ganed Arwyn John Heward Rees yn Felin-foel a derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli.

Yn dilyn cryn lwyddiant eisteddfodol fel pianydd, sicrhaodd Ysgoloriaeth Gerdd Genedlaethol Joseph Parry a’i harweiniodd i ddilyn gyrfa fel myfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Rhwng 1953 ac 1956, bu’n astudio gradd mewn cerddoriaeth (ynghyd â chyfoeswyr fel William Mathias a David Harries) cyn treulio cyfnod hynod gyffrous ym Mharis (1956-7) fel myfyriwr yn y Sorbonne a’r Conservatoire de Paris.

Yno y clywodd rhai o weithiau Poulenc am y tro cyntaf a phrofi datblygiadau arloesol ym maes cerddoriaeth Ewropeaidd y dydd. Dychwelodd i’r brifysgol a chwblhau gradd anrhydedd mewn Ffrangeg rhwng 1957 ac 1958, ond erbyn hynny roedd cerddoriaeth Chopin (a’r iaith Bwyleg) wedi tanio ei ddychymyg. Treuliodd gyfnod yn athro cerddoriaeth yn Ysgol Grove Park (Wrecsam) cyn ymuno â staff y Coleg Normal, Bangor, lle bu’n darlithio ym maes addysg cerddoriaeth o 1963 hyd at 1983.

Fel cyfarwyddwr cyntaf Canolfan Hyrwyddo Cerddoriaeth yng Nghymru yn adran gerdd Prifysgol Cymru, Caerdydd, bu’n ddyfal yn sefydlu archif o gerddoriaeth gyfoes gan gyfansoddwyr Cymreig. Gyda chymorth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru, sicrhaodd lawysgrifau cerdd, deunydd cyhoeddedig, lluniau, recordiadau sain yn ogystal â chynnyrch rhaglenni radio a theledu a oedd yn gysylltiedig â’r maes.

Bu’n olygydd ar y cyfnodolyn Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music o 1973 a fu’n gyfrwng i ymestyn y ddealltwriaeth o’r maes ac yn fodd o fesur cyfraniad neilltuol y traddodiad a’i ddylanwad ar gymeriad y genedl. Cyfwelodd nifer o gerddorion blaenllaw y cyfnod (yn eu plith Grace Williams, Alun Hoddinott, David Wynne ac Arwel Hughes) a chroniclodd eu hanes ar dudalennau’r cylchgrawn. Cyhoeddodd gasgliadau o ganeuon Morfydd Llwyn Owen, Caneuon o Gymru (1990) ynghyd â chyfansoddiadau cyfoes ar gyfer offerynnau llinynnol.

Fel awdur toreithiog a beirniad, cyfrannodd adolygiadau i’r Musical Times a’r Western Mail ac erthyglau ar gyfansoddwyr o Gymru ar gyfer geiriadur Grove, ac fel aelod o’r Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth yng Nghymru (gw. Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru) bu’n flaenllaw yn y gwaith o sefydlu cystadleuaeth Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol a sicrhau bod cyfansoddwyr ifanc yn derbyn cydnabyddiaeth deilwng am eu crefft. Traethodd yn huawdl ar anghenion y byd cerdd yng Nghymru a chyhoeddwyd un o’i ddarlithoedd, Ein trydedd iaith? Our Third Language? gan Gymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru yn 1991. Fe’i hurddwyd â’r Wisg Wen ym Mhrifwyl Llanelli 2000 am ei gyfraniad nodedig i ysgolheictod cerddorol yng Nghymru, am ei ymdrech yn hyrwyddo’r maes ac am chwifio baner y traddodiad trwy gyfrwng darlithoedd a chynadleddau yn Hong Kong a thynnu sylw Cymry alltud ato hefyd trwy gyfrwng cyhoeddiadau fel Y Drych.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • A. J. Heward Rees, Ein Trydedd Iaith? Our Third Language? (Bangor, 1991)
  • ———, ‘Henry Brinley Richards (1817–1885): Propagandydd cerddorol o’r 19eg ganrif’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 2 (1997), 173–92



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.