Rees, W. T. (Alaw Ddu; 1838-1904)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Roedd William Thomas Rees yn un o’r ffigurau amlycaf ym mywyd cerddorol Cymru yn Oes Victoria, yn weithgar fel arweinydd, cyfansoddwr, awdur a golygydd cylchgronau cerdd. Fe’i ganed ym Mhwll-y-glaw ger Pont-rhyd-y-fen ac yn 1851 symudodd i fyw i Aberdâr er mwyn gweithio yn y lofa. Dylanwadwyd arno gan Ieuan Gwyllt (John Roberts; 1822–77), a thrwy gyfrwng y tonic sol-ffa dechreuodd ei drwytho’i hun yn elfennau cerddoriaeth. Yn 1861 symudodd i Dinas, Cwm Rhondda. Am gyfnod byr bu’n gweithio i Arglwyddes Llanofer ac ef fyddai’n arwain y canu yn ei chapel. Yn 1870 symudodd am y tro olaf, y tro hwn i Lanelli, lle cafodd waith yn y pen draw fel arolygwr iechyd cyhoeddus. Yng Nghwm Rhondda y cyfansoddodd yr emyn-dôn ‘Glanrhondda’ sy’n dal i gael ei chanu’n weddol aml.

Yn Llanelli sefydlodd y Llanelli Philharmonic Society a bu’n amlwg ar bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1895. Ef hefyd a baratodd tua 45 aelod o Undeb Corawl De Cymru ar gyfer cystadlaethau mawr y Palas Grisial yn 1872 ac 1873. Ei is-arweinydd oedd R. C. Jenkins (neu ‘R.C.’) a fu’n weithgar iawn dros gerddoriaeth yn y dref wedi hynny.

Bu’n olygydd Y Gerddorfa (1872–9), Yr Ysgol Gerddorol (1878-9), Cyfaill yr Aelwyd (1880-1), Cerddor y Cymry (1883-94) a Cofiant Ieuan Gwyllt (gyda J. Owen). Ysgrifennodd yn helaeth ar gerddoriaeth a daeth yn boblogaidd fel arweinydd cymanfaoedd canu a beirniad eisteddfodol llym ond adeiladol. Bu’n godwr canu mewn nifer o gapeli yn ardal Llanelli a gwnaeth lawer i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth ymhlith ei gydwladwyr.

Cyfansoddodd yn helaeth yn ôl ffasiwn y cyfnod er nad yw’r gweithiau mawr ganddo wedi goroesi. Ysgrifennodd ddwy oratorio, Ruth a Naomi a Brenin Heddwch, cantatas megis Llywelyn ein Llyw Olaf (testun poblogaidd yn y cyfnod ymhlith cyfansoddwyr Cymreig), Cantre’r Gwaelod a’r Bugail Da. Enillodd ei fotét Gweledigaeth Ioan y wobr gyntaf iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy yn 1877, a chyfansoddodd yn ogystal bedair offeren Requiem, cytganau ac anthemau niferus. Roedd ei geinciau ‘Y Gwlithyn’ a ‘Ffynnon ger fy Mwth’ yn boblogaidd iawn yn eu dydd.

Mae bywyd a gwaith Alaw Ddu yn ddrych ardderchog o’r cyfnod ac yn nodweddiadol o’r math o gymwynaswyr a fu gan y diwylliant cerddorol Cymreig bryd hynny - y cefndir cyffredin, yr hunan-ddysg, yr argyhoeddiad fod cerddoriaeth yn gallu gwneud lles mewn cymdeithas a’r gred ym mhwysigrwydd canu cynulleidfaol a datblygu cerddoriaeth gerddorfaol (gw. Ffurfiau Offerynnol a Clasurol a Chelfyddydol, Cerddoriaeth). Enillodd ei draethawd ‘Pa fodd i godi safon cerddoriaeth offerynnol yng Nghymru’ wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1887. Heb ei ddyfalbarhad, ei ddycnwch a’i ynni byddai cerddoriaeth ei fro a’i genedl yn ei gyfnod yn dipyn tlotach.

Lyn Davies

Llyfryddiaeth ddethol

  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953) a’r fersiwn ar-lein o’r Bywgraffiadur
  • Rhidian Griffiths, ‘Alaw Ddu: o’r pwll at y gân’, Y Casglwr, 35 (1988), 3
  • A. J. Heward Rees, ‘Cerdd a Cherddorion Tref Llanelli: Rhai Agweddau’ yn Hywel Teifi Edwards (gol.), Cwm Gwendraeth, Cyfres y Cymoedd (Llandysul, 2000), 197-224



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.