Rhychiadau, Rhigolau A Phlicnodau Ffrithiant

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

(Saesneg: striations/striae, grooves and friction cracks)

Sgrafelliad rhewlifol (glacial abrasion) yw’r erydiad a achosir pan fo rhewlif wedi’i arfogi â llwyth gwely (bed load) o greigiau maluriedig, gan gynnwys blawd craig (rock flour), yn crafu, treulio ac yn caboli arwynebau’r creigiau y mae’n llifo trostynt. Gronynnau tywod bras (0.06–2 mm) a chlastiau brasach yn sownd yng ngwadn rhewlif sy’n erydu drwy grafu, gan greu rhychiadau a rhigolau, tra bod deunydd sgrafellog manach, yn arbennig gronynnau silt (0.004–0.06 mm), yn bennaf cyfrifol am gaboli arwynebau creigiau, yn enwedig creigiau mân-ronynnog, megis llechfaen. Gwahaniaethir rhwng rhychiadau (a all fod mor fân fel bod angen chwyddwydr i’w gweld) a rhigolau nid yn unig o ran eu hyd ond hefyd eu dyfnder. Fel rheol, anaml y mae’r rhychiadau hwyaf yn fwy na metr neu ddau o hyd ac ychydig filimetrau o ddyfnder, ond gall rhigolau unigol fod 1–2 m o ddyfnder a 50–100 m o hyd.

Yn ôl Bennett a Glasser (2009), y tri newidyn sy’n bennaf cyfrifol am reoli gallu rhewlif i sgrafellu creigiau ei wely yw: (i) y gwasgedd cyswllt gwaelodol (basal contact pressure), h.y. po fwyaf y gwasgedd, mwyaf i gyd yw’r gallu erydol; (ii) cyfradd y llithro gwaelodol (rate of basal sliding), sy’n ddibynnol ar gyflwr thermol yr iâ – mae llithro ac erydiad sylweddol yn nodweddu rhewlifau gwadn cynnes yn bennaf; (iii) crynodiad a chyflenwad y deunydd sgrafellog, h.y. er bod angen cyflenwad o’r fath ddeunydd cyn y gall rhewlif sgrafellu ei greiglawr (rock floor), gall gormodedd ohono gynyddu’r ffrithiant rhwng yr iâ a’r gwely ac arafu’r llithro a’r gyfradd sgrafellu. Ond at y tri newidyn uchod, dylid ychwanegu litholeg ac adeiledd creigiau gwely’r rhewlif, gan nad yw rhychiadau, rhigolau na phlicnodau ffrithiant yn debygol o ddatblygu ar arwynebau creigiau hyfriw nac ychwaith oroesi ar arwynebau creigiau sy’n hindreulio’n gyflym.

Rhychiadau: Oherwydd fod y crafiadau hyn yn datblygu’n gyfochrog â llif yr iâ a’u creodd, gellir eu defnyddio i ail-greu patrwm llif yr iâ. Er hynny, mae’n bwysig cofio mai cofnodi cyfeiriadaeth (orientation) ac nid union gyfeiriad (direction) symudiad yr iâ y mae rhychiadau. At hynny, gall eu cyfeiriadaeth amrywio’n fawr hyd yn oed ar frigiad (outcrop) unigol, megis craig follt (roche moutonnée), wrth i lif yr haenau iâ gwaelodol ymateb i’w anwastadedd. Ar rai brigiadau ceir mwy nag un set o rychiadau ond nid mater hawdd yw dyddio’r naill set neu’r llall, ac eithrio pan fo rhychiadau bas yn torri ar draws rhychiadau dyfnach y gellir eu priodoli i lif iâ cynharach.

Plicnodau ffrithiant: Caiff y term cyffredinol hwn ei ddefnyddio i ddisgrifio ‘teulu’ o wahanol blicnodau, sef pantiau neu graciau garw eu gwedd a grëir wrth i iâ wedi’i arfogi â deunydd sgrafellog bras, megis cerigos (pebbles) neu hyd yn oed clogfeini, lifo dros arwynebau creigiau gan blicio oddi arnynt asglodion a’u sgubo ymaith. Y ffurfiau mwyaf trawiadol yw plicnodau crymanaidd (lunate fractures) a phlicnodau gwrthgrymanaidd (crecentic gouges) sy’n mesur ychydig gentimetrau neu dros fetr ar draws. Er bod y naill ffurf yn ddrych-ddelwedd o’r llall, mae’r plicnodau hyn yn meddu ar hydbroffil anghymesur tebyg i’w gilydd, gan fod y microdarren (micro-scarp) serth yn wynebu’n groes i gyfeiriad llif yr iâ. Felly, mae modd eu defnyddio i ail-greu patrwm symud y rhewlif neu’r llen iâ a’u creodd. Llwyddwyd i greu plicnodau crymanaidd a phlicnodau gwrthgrymanaidd mewn arbrofion labordy drwy greithio gwydr optegol gyda chymorth pelferyn dur. Crëwyd plicnodau crymanaidd drwy wthio’r bêl yn ei blaen heb adael iddi rolio, ond os caniatawyd iddi rolio, crëwyd plicnodau gwrthgrymanaidd.

Adlewyrchiad o batrwm cyfres o blanau torri bwaog (arcuate fracture planes), sydd naill ai’n goleddu i’r un cyfeiriad â llif yr iâ neu’n groes iddo, yw craciau crymanaidd (crecentic fractures) a chan eu bod yn meddu ar ochrau atrew (onset side of ice) amgrwm ac ochrau gwrthrew (lee side of ice) ceugrwm, mae modd defnyddio’r plicnodau ffrithiant hyn hefyd i ail-greu patrwm symud y rhewlif neu’r llen iâ a’u creodd. Mae rhewgreithiau (chatter-marks) yn ymdebygu i graciau crymanaidd bach ond nid yw plân torri pob rhewgraith unigol yn ymestyn yn ddyfnach na’r graith a adewir ar ôl wedi i’r asglodyn gael ei sgubo ymaith. Yn ôl rhai, mae rhewgreithiau yn nodweddu lloriau rhigolau mawr yn unig.

Mae planau torri plicnodau concoidaidd (conchoidal fractures) yn geugrwm ar i fyny ond nid yw ffurf y math yma o blicnod ffrithiant yn ddangosydd dibynadwy o gyfeiriad llif yr iâ.

Llyfryddiaeth

  • Bennett, M.R. a Glasser, N.F. (ail arg. 2009) Glacial Geology: Ice Sheets and Landforms, Wiley, Chichester, tt. 109–14 a 135–45
  • Benn, D.I. a Evans, D.J.A. (adarg. 2010) Glaciers and Glaciation, Arnold, Llundain, tt. 312–7



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.