Rhys, Dulais (g.1954)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddor a chyfansoddwr gydag amrediad eang o ddiddordebau ymarferol ac academaidd ar draws nifer o feysydd a chyfnodau. Derbyniodd radd BA dosbarth cyntaf mewn cerddoriaeth o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor yn 1974 gan gwblhau MMus o’r un sefydliad flwyddyn yn ddiweddarach.

Wedi cyfnod yn astudio yn y Peabody Conservatory of Music, Baltimore, yn yr Unol Daleithiau, ym maes cyfansoddi, arwain a cherddoriaeth electronig (1977-78), bu’n athro cerddoriaeth yn Ysgol Rhydfelen (1979-85) cyn dod yn bennaeth adran gerddoriaeth Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin (1985-95). Bu hefyd yn darlithio ym Mhrifysgol Abertawe am gyfnod.

Mae ei gyfraniad yn nodedig yn bennaf am ei waith ar gerddoriaeth Joseph Parry. Bu ynghlwm â darparu fersiwn cerddorfaol newydd o opera’r cyfansoddwr Blodwen ar gyfer perfformiad cyntaf yn 1978 (ganrif wedi’r perfformiad cyntaf). Cwblhaodd PhD ar Parry o Brifysgol Cymru yn 1986. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ac erthyglau ar y cyfansoddwr. Fel Parry ei hun, treuliodd gyfnod yn yr Unol Daleithiau, ac ers 2012 bu’n dysgu ac yn gyfarwyddwr cerdd yn Ysgol Gerddoriaeth Amabile yn San Francisco.

Llyfryddiaeth

  • Dulais Rhys, Joseph Parry: Bachgen Bach o Ferthyr (Caerdydd, 1998)
  • Dulais Rhys a Frank Bott, To Philadelphia and back: the life and music of Joseph Parry (Llanrwst, 2010)
  • ‘Joseph Parry: cerddor a Christion’, Y Traethodydd, 158 (2003), 76–88.



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.