Rhys Powys

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfarwyddwr teledu a ffilm yw Rhys Powys sydd wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd yn ardal Caerdydd. Fe’i ganwyd ym 1962, yn fab i Rhiannon ac R. Alun Evans, ac yn frawd i’r ddarlledwraig Betsan Powys.

Graddiodd mewn drama o Brifysgol Aberystwyth ym 1983 cyn dilyn diploma ôl-raddedig yn ysgol ddrama East 15 yn Llundain. Treuliodd bum mlynedd yn gweithio fel perfformiwr a chyfarwyddwr theatr gan berfformio yng Nghymru, Lloegr a thramor gyda chwmnïau megis Lumiere and Son, Brith Gof a Theatrig.

Ym 1990 derbyniodd hyfforddiant ar gwrs cyfarwyddo drama deledu, ac ymunodd â thîm Criw Byw oedd yn darparu Fideo 9 i S4C, sef cyfres gerddorol a chelfyddydol arloesol i bobl ifainc. Derbyniodd Fideo 9 wobrau BAFTA Cymru am y gyfres ieuenctid orau ym 1992, a’r gyfres gerddoriaeth orau ym 1993.

Rhwng 1996 ac 1998, a 2000 a 2003 cafodd gyfle i ymuno â chriw o gyfarwyddwyr ar bum cyfres o’r ddrama Iechyd Da (Lluniau Lliw/Bracan) i S4C. Cyfres boblogaidd wedi ei gosod ym maes Iechyd yr Amgylchedd oedd hon, a gynhyrchwyd gan Peter Edwards a Branwen Cennard. Rhys gyfarwyddodd y chweched a’r seithfed gyfres ohoni.

Ers hynny bu’n cyfarwyddo deunydd drama deledu cyfrwng Cymraeg a Saesneg, yn eu plith Belonging (2003–08: cyfres 5–9) i BBC Cymru; Con Passionate (2004–08: cyfres 1,2 a 3) a Teulu (2008–10: cyfres 2 a 3) i S4C. Daeth cyfle hefyd yn 2005/6 i gyfarwyddo dwy bennod o’r gyfres rwydwaith Casualty i BBC1 (cyfres 19: pennod 45 a chyfres 20: pennod 4).

Er yr ystod o waith drama a wnaed gan Rhys nid yw wedi cyfyngu ei hun i’r genre, gan iddo hefyd gyfarwyddo rhaglenni dogfen, rhaglenni nodwedd, hysbysebion, eitemau uned camera sengl ym mhrif ddigwyddiadau’r genedl megis y Sioe Frenhinol (Boomerang) a’r Eisteddfod Genedlaethol (BBC Cymru) a chyfarwyddo camera sengl dramor yn Ewrop, Affrica a’r Dwyrain Canol.

Un o’i brif ddiddordebau yw cerddoriaeth – bu’n drymio i wahanol grwpiau dros y blynyddoedd ac ef yw gitarydd y grŵp Catsgam. Dyna’r cefnlen ar gyfer ei ffilm hir gyntaf 31.12.99 – ffilm a sgriptiodd ar y cyd â Meic Povey a’r cynhyrchydd Branwen Cennard. A hithau yn noson olaf y mileniwm, mae’n gyfnod tyngedfennol i dri chwpwl, ac yn eu plith y prif gymeriad Lee (Richard Harrington) – canwr roc sydd ar fin cael ei gig gyntaf yn Llundain. Cipiodd y ffilm wobr Ysbryd yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ffilm Geltaidd yn 2000, a’r un flwyddyn cyrhaeddodd restr fer y ffilm orau yn y Gwobrau "Nombre d’Or", Gŵyl IBC, Amsterdam.

I fyd cerddoriaeth y’i denwyd yn ei ail ffilm hir, Ryan a Ronnie (2008), sydd yn deyrnged hardd i ddau ddiddanwr – Ryan Davies a Ronnie Williams, ac i swyn y cyfnod o dan sylw (yr 1970au). Addasiad o ddrama lwyfan gan Meic Povey yw hi, a addaswyd gan y sgriptiwr ei hun, ac a gynhyrchwyd gan Branwen Cennard (i Boom Films). Mae’n gyfuniad diddorol o ddogfen a drama, fe ymchwiliwyd yn drylwyr i hanes a chefndir y ddau, ond mae’r elfen ddramatig yn rhoi rhyddid i’r dychymyg fentro i fyd nostalgia a ffantasi – sy’n atgoffa rhywun o agweddau gorau y gyfres Con Passionate. Enillodd y ffilm hon wobr BAFTA Cymru 2010 i Rhys Powys am gyfarwyddwr gorau ffilm neu ddrama.

Bywgraffiad gan Non Vaughan-Williams.

Cyfeirnodau

  • "Ryan a Ronnie yn Yr Eidal", Golwg, cyfrol 22, rhif 15, 10 Rhagfyr 2009