Saethiad nodi

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Cut aways/nodies

Lluniau fideo a dynnir ar gyfer eu gosod yn y darllediad terfynol.

Ar leoliad, dim ond un camera yn unig sydd ar gael i saethu eitemau newyddion neu gyfweliad. Mae’r camera felly’n wynebu’r cyfwelai. Ar ôl y cyfweliad, mae’r camera’n troi i ffilmio’r gohebydd lle y mae’n amneidio’i ben fel petai’n gwrando ar y cyfwelai, neu efallai’n gofyn cwestiwn. Mae’r clipiau’n cael eu defnyddio wrth olygu’r deunydd er mwyn pontio rhwng dau ddarn o gyfweliad yn esmwyth.

Cânt eu defnyddio hefyd wrth ffilmio digwyddiadau mewn eitem newyddion, ac mewn ffilmiau neu raglenni dogfen lle y mae angen cwtogi. Nid yw’r llun o reidrwydd yn cyfrannu unrhyw gynnwys dramatig ynddo ei hun ond fe’i defnyddir i gwtogi’r darn o ffilm (sequence). Er enghraifft, os taw’r prif wrthrych yw menyw yn cerdded i lawr y stryd gyda’i chi, gellir cwtogi’r saethiad hir drwy fewnosod saethiad agos o’i dwylo yn cydio yn y tennyn, neu wyneb y ci rhwng y saethiad llydan ohoni’n cerdded. Weithiau mae’r siot yn ychwanegu naws ddiddorol neu wybodaeth ychwanegol i’r olygfa.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.