Sail adferiad yswiriant

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Dull o asesu maint neu’r swm y dylid yswirio eiddo dan bolisi yswiriant yw hwn, lle bydd y swm a delir yn seiliedig ar gost atgyweirio'r adeilad os caiff ei ddifrodi neu’i ddinistrio’n llwyr.

Cyfrifir y swm gan gynnwys dymchwel adfeilion, costau adeiladu, ffioedd proffesiynol a chostau ariannu, yn ogystal â lwfans i gynrychioli chwyddiant am gyfnod y gwaith adfer. Rhagdybir bod yr adeilad wedi ei ddifrodi ar ddiwrnod olaf cyfnod y polisi yswiriant.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Valuation: Principles into Practice”, R. E. H. Hayward ac W. H. Rees, Estates Gazette, pumed argraffiad, tudalennau 693, 697 a 698



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.