Sain naturiol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Actuality

Cofnodi sain (a lluniau) digwyddiad wrth iddynt ddatblygu yn y lleoliad. Mae’n cael ei gysylltu fwyaf aml gyda newyddiaduraeth radio pan ddefnyddir y term ‘natsot’ (natural sound on tape) i ddisgrifio clipiau awdio – er enghraifft sain band pres mewn gorymdaith, neu gynhadledd i’r wasg neu gyfweliad gyda ffans gêm bêl-droed. Caiff y rhain eu defnyddio mewn eitem newyddion er mwyn cyfleu’r syniad o realaeth.

Yn yr un modd, mewn ffilm ddogfen, mae’r syniad o gyfleu’r gwirionedd yn ymwneud â defnyddio deunydd wedi’i recordio yn y fan a’r lle (actuality footage).

Mae enghreifftiau cynnar o newyddion radio yn defnyddio’r clipiau hyn, gan gynnwys adroddiadau Edward R. Murrow This is London i CBS ar adeg yr Ail Ryfel Byd. I’r gwrandäwr, roedd Murrow yn darparu ‘lluniau mewn sain’ o ansawdd anhygoel ar brydiau. Esgorodd yr arbrawf hwn ar adroddiadau llygad-dyst o faes y gad. Roedd hwn yn fath newydd o newyddiaduraeth rhyfel gydag apêl anhygoel i gynulleidfaoedd a oedd yn ysu am newyddion go-iawn.

Y Cymro, Wynford Vaughan-Thomas oedd gohebydd cyntaf y BBC i hedfan mewn awyren bomio Lancaster dros Berlin yn ystod y nos yn 1943. Disgrifiodd gyda manylder yr hyn a olygai’r cyfan gan roddi syniad clir i’r gwrandawyr o’r peryglon a wynebai awyrenwyr o Brydain (Rees 2011). Recordiwyd ei sylwebaeth ar beiriannau recordio cyntefig, mawr a thrwsgl ond roedd y rhain yn ddigon da i gofnodi nid yn unig llais Wynford ond sŵn y gynnau hefyd. Cafodd ei anrhydeddu gan Lywodraeth Ffrainc gyda’r Croix de Guerre yn 1945.

Fe wnaeth adroddiadau rhyfel y BBC, y War Report, addo cyflwyno’r ‘darlun diweddaraf a chyflawn o’r rhyfel’ i’r gwrandäwr.

Dywedodd y BBC bod y rhaglen wedi mynd â’r meicroffon ‘to places where things were happening, and let it listen – as one would one’s self like to listen – to the sounds of battle, to the voices of men just returned from the fighting line, to observers who spent that day touring the scene of action.’ (Dyfynnwyd yn Briggs 1970: t. 662)

Llyfryddiaeth

Briggs, A. 1970. The War of Words, Volume III: The History of Broadcasting in the United Kingdom. London: Oxford University Press.

Rees, D. B., 2011. Vaughan-Thomas, Lewis John Wynford (1908–1987), darlledwr, awdur a gŵr cyhoeddus. Y Bywgraffiadur Cymreig [Ar-lein]. Ar gael: http://yba.llgc.org.uk/cy/c8-VAUG-WYN-1908.html [Cyrchwyd: 12 Gorffennaf 2018]



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.