Sensoriaeth

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Censorship

Atal mynegiant, syniadau neu wybodaeth sy’n cael eu hystyried yn beryglus, niweidiol, bygythiol, neu’n annymunol gan y rhai sydd mewn grym. Yn deillio o’r gair censere yn Lladin (‘i roi eich barn’) ac yn gysylltiedig yn wreiddiol â gweithredoedd person o fri yn yr oes Rufeinig, mae sensoriaeth gyfoes wedi cael ei hailddiffinio sawl gwaith, mewn perthynas â swyddogaeth, natur, cwmpas, ymddygiad ac effaith.

Mae sensoriaeth wedi newid gwedd yn ystod gwahanol gyfnodau amser. Mae’n amrywio o sensoriaeth dreiddiol, bendant a nodweddai reoli deunyddiau a argraffwyd yn Ewrop yn yr ail ganrif ar bymtheg, er enghraifft, i ddulliau o hunansensoriaeth (megis lle y mae proffesiynoldeb, neu hyd yn oed chwaeth yn y cwestiwn) a gymerir yn ganiataol heddiw mewn gwledydd democrataidd.

Daw sensoriaeth o wahanol gyfeiriadau; o gyfeiriad crefyddol, gwleidyddol, milwrol, corfforaethol neu foesol, neu unrhyw gyfuniad ohonynt. Mae hefyd yn cael dylanwad gwahanol pan fydd newyddiaduraeth yn gweithredu o dan wahanol fathau o gyfundrefnau gwleidyddol. Mae sensoriaeth yn briodwedd allweddol mewn cyfundrefnau awdurdodol sy’n credu ei bod yn un o’r offerynnau mwyaf pwerus i reoli’r wladwriaeth.

Mewn democratiaethau hefyd, fodd bynnag, mae sensoriaeth yn cynyddu mewn cyfnod o fygythiad cydnabyddedig. Er enghraifft, yn 1798 o dan y Aliens and Sedition Acts yn Unol Daleithiau’r America (UDA), cafodd pobl ddirwy neu eu danfon i garchar os cafwyd nhw’n euog o ysgrifennu, argraffu neu gyhoeddi deunyddiau gwrthffederal.

Heddiw, er bod y Diwygiad Cyntaf (First Amendment) yn diogelu rhyddid barn a rhyddid y wasg yn UDA, mae’r tueddiad tuag at hunanfeirniadaeth, achosion o enllib, sensoriaeth mewn adeg o ryfel, cyfrinachedd, pwysau llywodraethol neu bwysau corfforaethol, a hyd yn oed y defnydd o iaith, yn ei gwneud yn haws i sensro nag y gellid ei ddychmygu.

Nid yw’n syndod, dros gyfnod o amser, bod sensoriaeth wedi hyrwyddo amrywiol arferion creadigol o osgoi: cyhoeddwyd papurau newydd rhyngwladol yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn yr Iseldiroedd er mwyn osgoi sensoriaeth ddomestig, tra yn ystod y cyfnod cyn i Louis-Philippe, dug Orléans, gael ei wneud yn frenin yn 1830, gwelwyd gwawdluniau (caricatures) ym mhapurau newydd a mannau cyhoeddus yn cynnig cyfle haws i bobl feirniadu’r frenhiniaeth Ffrengig na thrwy gyfrwng geiriau.

Mae’n anochel bod y gallu i sensro deunydd darlledu yn golygu defnyddio cryn dipyn o bŵer diwylliannol, ac mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch pwy sy’n sensro beth, ar ba sail ac er mwyn beth (Calvert et al. 2008). O safbwynt sensoriaeth deledu, mae hyn yn fater allweddol oherwydd taw cyfrwng domestig yw teledu yn bennaf, a welir mewn man preifat yn y cartref. Mae gan y teledu apêl fawr; mae’n boblogaidd ac mae ar gael ar hyd a lled y wlad. Am y rhesymau hyn, yn aml, canfyddir bod teledu yn gyfrwng pwerus ac oherwydd ei bod yn hawdd i blant yn enwedig i ddod o hyd i’r cynnwys, mae rhai sydd yn pryderu, ac am gynyddu sensoriaeth, yn defnyddio hyn fel dadl allweddol dros reoleiddio’r allbwn.

Mae’r wladwriaeth yn rheoleiddio darlledu ar sawl lefel, e.e. trwy roi trwydded i gwmnïau i ddarlledu a dyrannu sianeli. I raddau helaeth, mae’r diwydiant darlledu yn UDA ac ym Mhrydain yn rheoleiddio eu hunain ac yn gweithredu ar sail codau ymarfer a chanllawiau a luniwyd gan amryw o gyrff y Llywodraeth. Mae sensoriaeth felly yn system lle y mae swyddogion a benodwyd gan y Llywodraeth yn cael yr hawl i amddiffyn lles y cyhoedd drwy ddylanwadu mewn ffurf gynnil ar gynnwys darlledu (Calvert et al. 2008).

Llyfryddiaeth

Calvert, B. et al. 2008. Television studies: The key concepts. London and New York: Routledge.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.