Sgriptio

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Y berfenw ar y broses o ysgrifennu sgript. Mae sgript yn cofnodi deialog neu ddiffyg deialog cymeriadau neu fonolog cymeriad mewn cyfrwng dramatig lle mae angen cyfathrebu gyda chynulleidfa, megis drama lwyfan, ffilm, drama neu gyfres deledu, drama radio neu ddarllediad. Diffinnir y term gan R. Emrys Jones yn fel ‘copïau ysgrifenedig neu deipiedig o ddrama a ddefnyddir mewn rihyrsal cyn i’r ddrama gael ei chyhoeddi’ . Yn ogystal â chofnodi’r ddeialog, mae sgript hefyd yn cynnwys yr holl gyfarwyddyd i’r sawl sy’n llefaru’r geiriau (actor/ion), y cyfarwyddwr a’r criw technegol a chefn llwyfan, megis cyfarwyddyd ar sut i lefaru neu weithredoedd corfforol yr actor, cyfarwyddyd ar effeithiau sain a goleuo a’r defnydd o gerddoriaeth a’r newid mewn set neu wisg. Dyma’r hyn y cyfeiria R. Emrys Jones ato yn ei gyfrol fel ‘Sgript gwaith’ . Gellir rhannu sgript yn wahanol adrannau; yn actau ac yn olygfeydd. Deillia’r term o’r gair Lladin, ‘scriptum’, a olyga ‘gyfathrebu ysgrifenedig’.

Manon Wyn Williams

Llyfryddiaeth

Jones, R. Emrys (1964) Termau'r Theatr (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru)


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.