Symbol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Rhywbeth sy’n cynrychioli rhywbeth amgenach yw symbol, e.e. draig goch dros Gymru, croes dros Gristnogaeth, y lliw gwyn dros burdeb, ac yn y blaen. Fel arfer mae’n cyfleu rhywbeth mwy, neu fwy cymhleth, ac felly gweithreda fel llaw-fer o fath. Wrth gwrs, defnyddid symbolau mewn llenyddiaeth ac mewn celfyddyd gain ymhell cyn y 19g., ond daeth y symbol yn arbennig o boblogaidd y ganrif honno yn rhannol fel adwaith yn erbyn Realaeth (ac yn nes ymlaen Naturiolaeth) yn y nofel.

Nod barddoniaeth symbolaidd yw ‘awgrymu’ drwy ddelweddu cynnil yn hytrach na gwneud gosodiadau yn blwmp ac yn blaen, ac os yw cynildeb yn esgor ar amwysedd, dim ond cael ei chyfoethogi wna’r gerdd yn y pen draw: lluosogrwydd ystyr a geisir yn hytrach nag aneglurdeb. Meddylir am y bardd Ffrangeg Stéphane Mallarmé fel un o feistri’r ‘symbol’. Er mai menter beryglus yw honno sy’n ceisio distyllu arddull amryfal destunau Mallarmé i ryw hylif hanfodol bur, gall fformwla fel yr un ganlynol fod o gymorth wrth ddeall y defnydd a wna Mallarmé o’r ‘symbol’:

Cam 1: Presenoldeb gwrthrych – bodola ym myd natur ac fe’i hadnabyddir drwy’r synhwyrau.
Cam 2: Atgof o’r gwrthrych – bodola fel atgof neu syniad yn unig, mae’n absennol o fyd natur (negyddiad o gam 1).
Cam 3: Synthesis – gwelir gwrthrych arall, symbol, sydd, trwy gydweddiad (‘analogie’), yn deffro’r atgof (cyfuniad o gamau 1 a 2, sy’n mynd y tu hwnt i 2 ond heb ddychwelyd i 1).

Yn achos rhai gwrthrychau a ddefnyddiwyd yn fynych fel symbolau yn y traddodiad llenyddol gorllewinol mae bron yn amhosib osgoi’r wledd o gysylltiadau a chynodiadau a ryddheir gan y gair. Mae alarch Mallarmé yn ogystal ag alarch Baudelaire o’i flaen yn pelydru drwy alarch Euros Bowen gan gyfoethogi a chymhlethu delwedd y bardd o Gymro. O fewn y traddodiad Cymraeg mae symbol y murddun yn dwyn i gof draddodiad sy’n ymestyn o Ganu Heledd, lle gellir cyfnewid gwacter yr ystafell am wacter siambr yr ymennydd, drwy Ddafydd ap Gwilym gyda’i adfail sy’n esgor ar fyfyrdod ar ystyr bywyd, ‘Hudol enbyd yw’r byd byth’, i’r 20g. gyda cherdd fel ‘Rhos Helyg’ B. T. Hopkins: ‘Gwelaf lain a’i drain yn drwch’. Ni ddylid drysu’r ‘symbol’ â’r ‘Symbolaidd’, sef cysyniad a ddatblygwyd gan Jacques Lacan ac a addaswyd i lenyddiaeth gan Julia Kristeva.

Heather Williams

Llyfryddiaeth

Chadwick, C. (1971), Symbolism, yn y gyfres ‘The Critical Idiom’ (Llundain: Methuen).

Preminger, A. a Brogan, T. V. F. (goln) (1993), The Princeton Encyclopedia of Poetry and Poetics (Princeton: Princeton University Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.