Taliadau ôl-weithredol

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Biliau/talebau yw'r rhain am waith neu gostau a gafwyd gan un o’r partïon, ac yn unol â’r cytundeb y dylid fod wedi eu cwblhau, neu wariant a wnaethpwyd gan y parti sydd yn cyflwyno’r biliau.

Gan amlaf bydd perchnogion yn cyflwyno bil am daliadau ôl-weithredol i’r contractwyr cyffredinol a bydd hwythau yn eu tro yn cyflwyno biliau i’r isgontractwyr, fel y bo’n briodol.

Gall enghreifftiau gynnwys costau glanhau a chymoni neu drwsio rhywbeth a ddifrodwyd gan is-gontractwr arall.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Construction Contract Law”, John Adriaanse, Palgrave Macmillan, argraffiad 2010, tudalennau 220-232



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.