Tich Gwilym: Cyfweliadau

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ceir yma wybodaeth am yr unigolion a gyfwelwyd fel rhan o'r gwaith ymchwil ar gyfer y dudalen ar Tich Gwilym.

Enw Gwybodaeth Llun
Siôn Jones Bu’n chwarae gyda’i frawd ym Maffia Mr Huws a’r Anrhefn. Dyma lun ohono gyda hen gitâr Tich a roddwyd iddo gan ei frawd fel tâl am ddyled. ‘It plays like a dog’ meddai Tich wrtho, ond mae’n werth pob dim i Siôn.
Siôn Jones
Gwyn Jones Bu Gwyn yn chwarae drymiau i Maffia Mr Huws, Y Cynganeddwyr a Superclarks. Mae’n parhau i chwarae’n gyson gyda gwahanol fandiau yng Nghymru.
Gwyn Jones a Siân James
Siân James Mae Siân yn artist gwerin adnabyddus sydd wedi rhyddhau sawl albwm. Mae’n canu ac yn chwarae’r delyn.
Mike Monk Bu’n byw yn Llundain yn ennill bywoliaeth yn canu ac fe’i hyfforddwyd i fod yn beiriannwr sain gan ITV yn Teddington. Roedd yn byw drws nesa’ i Mark Bolan yn Llundain a daeth i adnabod llawer o gerddorion byd enwog. Ar ôl i’w yrfa fel canwr ddod i ben, bu’n brysur fel asiant a rheolwr nifer o fandiau mawr o Gymru.
Mike Monk
Geraint Jarman Bardd, cerddor a chynhyrchydd teledu. Bu Geraint yn llwyddiannus iawn gyda’r Cynganeddwyr ond hefyd fel cynhyrchydd teledu yn creu rhaglenni arloesol fel Fideo 9.
Geraint Jarman
Peredur ap Gwynedd Gitarydd proffesiynol o ardal Crymych a deithiodd y byd yn chwarae i Natalie Imbruglia, Pendulum a Faithless.
Dafydd Pierce Peiriannwr sain a gitarydd. Bu’n gyfrifol am stiwdio a label 123 a bu’n chwarae mewn bandiau yn cynnwys Mochyn ‘apus a Dafydd Pierce a’r Amigos.
Dewi 'Pws' Morris Actor, cerddor a diddanwr. Mae Dewi wedi chwarae gyda’r Tebot Piws, Edward H. Dafis ac wedi cyd-weithio gyda nifer o artistiaid yng Nghymru. Mae’n enwog am y gyfres ddigrif Torri Gwynt ac am ganeuon fel Lleucu Llwyd.
Pete Hurley Gwas priodas Tich. Bu’n chwarae yn Kimla Taz ac mae’n parhau i chwarae gyda Geraint Jarman. Chwaraeodd y bas i nifer o fandiau gan gynnwys Van Morrison.