Toeon ar ongl

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae natur llethr a gogwydd fframwaith toeon ar ongl [pitched roofs] yn pennu pa fath o orchudd a ddefnyddir.

Yn fras yr opsiynau fydd llechi Westmoreland [hyd oes 80 mlynedd] a Chymru [hyd oes 120 mlynedd]; teils plaen a theils cydgloi [interlocking]. Ym mhob ystyr mae’r pedwar yn mabwysiadu'r egwyddor gorgyffwrdd.

Mae llechi gan amlaf yn mesur 12 modfedd x 24 modfedd gyda dau dwll er hwyluso hoelen i’w cysylltu â ffrâm bren y to. Mae teils yn mesur 265mm x 165mm gyda thrwch o 12mm. Defnyddir gwaith plwm i ynysu rhag y glaw yng nghafnau’r to.

Toeon ar ongl.jpg


Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

“Construction Technology 1: House Construction”, Mike Riley ac Alison Cotgrave, Palgrave Macmillan, tudalennau 229,281-301 a 312


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.