Tomkins, Thomas (1572-1656)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Roedd Thomas Tomkins, un o’r cyfansoddwyr mwyaf a aned yng Nghymru, yr ystyrir yn gyffredinol ei fod o statws Ewropeaidd, yn fab i organydd Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Thomas Tomkins yr hynaf. Bu’n byw yn Nhyddewi hyd nes yr oedd yn bedair ar ddeg oed, lle’r oedd yn aelod o’r côr, cyn symud wedyn i Gaerloyw. Ceir tystiolaeth sy’n awgrymu bod Tomkins wedi bod yn ddisgybl i William Byrd rywbryd cyn ei benodi’n organydd i Eglwys Gadeiriol Caerwrangon yn 1596. Fe’i gwahoddwyd gan Thomas Morley, un arall o ddisgyblion Byrd, i gyfrannu’r fadrigal, The fauns and satyrs tripping, i The Triumphs of Oriana (1601).

Roedd Tomkins yn aelod cyswllt o Goleg Magdalen, Rhydychen o 1593; nid oedd angen preswylio yno, ac wedi pedair blynedd ar ddeg o astudio enillodd ei radd BMus yn 1607. Yn 1612 bu farw etifedd y brenin, y Tywysog Harri, ac ar gyfer yr angladd darparodd Tomkins anthem, Know you not; ynddi cymerodd bob cyfle i ddangos ehangder ei fedrau cyfansoddi. Mae’r alarnad estynedig sy’n llawn cromatyddiaeth a gwrthbwynt cwynfanus yn un o’r darnau gorau a gyfansoddwyd yn Lloegr yn yr 17g.

Fe’i penodwyd yn 1621 yn organydd y Capel Brenhinol ac o’r pryd hwnnw hyd y Rhyfel Cartref bu’n rhannu ei amser rhwng cyfnodau o wasanaeth yn Llundain a Chaerwrangon. Un casgliad yn unig o fadrigalau a gynhyrchodd Tomkins, sef ei Songs (1622); cyflwynwyd pob darn ynddo i aelod o’r teulu, cyfaill, neu gydweithiwr proffesiynol. Mae safon gyffredinol y madrigalau hyn yn gyson uchel, gan gynnwys y darn a ystyrir yn uchafbwynt ei waith, When David heard that Absalom was slain. Yn dilyn marwolaeth sydyn Orlando Gibbons yn 1625, daeth Tomkins yn uwch organydd y Capel Brenhinol ac i’w ran ef y daeth y cyfrifoldeb o drefnu’r gerddoriaeth ar gyfer coroni Siarl I yn ystod yr un flwyddyn.

Daeth dechrau’r Rhyfel Cartref â chryn chwalfa i fywyd sefydlog Tomkins. Bu farw ei wraig gyntaf, Alice, yn 1642, ond tua 1649 priododd wraig weddw leol, Martha Browne. Yn dilyn y gwarchae ar Gaerwrangon yn 1646, ataliwyd y gwasanaethau yn yr eglwys gadeiriol am y tro, ond parhaodd Tomkins i fyw yng nghlos y gadeirlan, gan gyfansoddi cerddoriaeth lawfwrdd hyd 1654, pan aeth i fyw gyda’i fab Nathaniel ym mhentref Martin Hussingtree. Yno y bu farw yn 1656, yn 84 oed. Yn 1668 trefnodd ei fab Nathaniel gyhoeddi nifer fawr o’i wasanaethau a’i anthemau mewn casgliad o’r enw Musica Deo sacra.

Litwrgaidd yw’r mwyafrif o weithiau Tomkins a oroesodd - mae saith o wasanaethau, tri yn y dull ‘llawn’, gan gynnwys un gwasanaeth ‘mawr’, a phedwar yn y dull ‘gwersi’. Mae ei anthemau llawn, er eu bod yn geidwadol eu harddull, ymhlith goreuon y cyfnod; mae ei anthemau gwersi yn aml yn flaengar, gydag awgrymiadau o’r dull Baróc. Mae O sing unto the Lord ac Almighty God, the fountain of all wisdom, anthemau llawn ill dwy, yn amlygu gwreiddioldeb harmonig eithriadol Tomkins, ynghyd â’i synnwyr o bensaernïaeth gerddorol. Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth lawfwrdd o safon uchel, gan gynnwys pafán ‘ar gyfer yr amseroedd dyrys hyn’, sy’n coffáu dienyddio Siarl I yn 1649.

David Evans

Llyfryddiaeth Ddethol

  • Denis Stevens, Thomas Tomkins ([arg. diw.] Efrog Newydd, 1967)
  • David R. A. Evans, ‘Thomas Tomkins and the Prince of Wales’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 7/4 (1983), 57–69
  • John Irving, The Instrumental Music of Thomas Tomkins (Efrog Newydd, 1989)
  • Anthony Boden, Thomas Tomkins: the last Elizabethan (Aldershot, 2005)
  • Sally Harper, Music in Welsh Culture Before 1650 (Aldershot, 2007)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.