Toms, Gai (g.1976)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Daeth Gareth J. Thomas, neu Gai Toms i’r rhan fwyaf o bobl, i amlygrwydd gyda’i fand cyntaf Anweledig, a ffurfiwyd yn 1992 ym Mlaenau Ffestiniog ganddo ef, Ceri Cunnington a’u ffrindiau ysgol. Ar ôl blynyddoedd o gigio, derbyniodd albwm cyntaf Anweledig, Sombreros yn y Glaw (Crai, 1998), a Gweld y Llun (Crai, 2000) adolygiadau ffafriol. Roedd sŵn y band - cymysgedd o ddylanwadau ffync a reggae-roc - yn groes i’r arddull indie a oedd yn boblogaidd yn y sîn gerddorol ar y pryd. Ond derbyniwyd y band yn wresog gan gynulleidfaoedd ar record ac yn fyw, fel y profodd yr ymateb i’w perfformiadau egnïol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1999 a Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2001.

Yn 2002, fodd bynnag, penderfynodd Gai Toms ddechrau perfformio fel artist unigol o dan y ffugenw Mim Twm Llai gan ryddhau ei albwm cyntaf, O’r Sbensh (Crai, 2002) yn yr un flwyddyn. Roedd arddull y canwr yn ei bersona fel Mim Twm Llai yn dra dyledus i gerddoriaeth werin a baledi, a bu Meic Stevens hefyd yn ddylanwad pwysig arno ers yr 1990au. Roedd O’r Sbensh a’r albymau a ddilynodd, megis Straeon y Cymdogion (Crai, 2005) ac Yr Eira Mawr (Crai, 2006), yn adlewyrchu hyn. Cydnabuwyd Gai Toms yn ystod Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru ar sawl achlysur. Enillodd wobr y Cyfansoddwr Gorau bum gwaith (2002, 2003, 2006–2008), a gwobr yr Albym Gorau (i O’r Sbensh) yn 2003. Daeth yn fuddugol hefyd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2012.

Erbyn 2008 roedd Gai Toms wedi rhoi heibio’r enw Mim Twm Llai a rhyddhaodd ei albwm cyntaf o dan ei enw ei hun, sef Rhwng y Llygru a’r Glasu, a hynny ar ei label annibynnol newydd Sbensh. Recordiwyd yr albwm gan ddefnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy a oedd yn ymdrech ar ei ran i godi ymwybyddiaeth ymhlith ei gynulleidfa o’i ddiddordeb mewn materion gwyrdd. Dilynwyd hyn gan albwm dwbl, Bethel, yn 2012 ar yr un label - prosiect am yr hen gapel yn Nhanygrisiau a drowyd yn stiwdio recordio ganddo. Yn 2014 aeth ati i ffurfio band newydd, Brython Shag, a darlledwyd sesiwn gan y band ar Radio Cymru yn Ebrill y flwyddyn honno.

Craig Owen Jones

Disgyddiaeth

gydag Anweledig:

  • Sombreros yn y Glaw (Crai CD060, 1998)
  • Cae yn Nefyn [EP] (Crai CD067, 1999)
  • Gweld y Llun (Crai CD074, 2001)
  • Low Alpine [EP] (Crai CD081, 2001)
  • Byw [EP] (Rasal CD002, 2004)

fel Mim Twm Llai:

  • O’r Sbensh (Crai CD085, 2002)
  • Straeon y Cymdogion (Crai CD100, 2005)
  • Yr Eira Mawr (Crai CD104, 2006)

fel Gai Toms:

  • Rhwng y Llygru a’r Glasu (Sbensh CD001, 2008)
  • Bethel (Sbensh CD002, 2012)
  • The Wild, the Tame and the Feral (Sbensh CD03, 2015)
  • Gwalia (Sbensh V001, 2017)

fel Brython Shag:

  • Brython Shag (Sbensh CD004, 2016)

casgliadau:

  • Goreuon (Rasal CD027, 2008)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.