Tony ac Aloma

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Roedd y ddeuawd Tony ac Aloma ymhlith artistiaid mwyaf poblogaidd y byd pop Cymraeg yn ystod yr 1960au. Bu Aloma Davies Jones (g.1951) o Lanerchymedd a Tony Jones (g.1945) o Ros-meirch yn perfformio’n rheolaidd mewn nosweithiau llawen ac eisteddfodau lleol ar Ynys Môn yng nghanol yr 1960au cyn iddynt ffurfio deuawd. Daeth cyfle iddynt berfformio ar y radio am y tro cyntaf yn 1965. Wedi iddynt ennill gwobr yn Eisteddfod Llanddona yn Ebrill 1967 cawsant wahoddiad gan gwmni teledu TWW i berfformio ar Y Dydd – eu hymddangosiad cyntaf ar deledu.

Roedd arddull Tony ac Aloma yn ysgafn ei naws. Yn groes i nifer o’u cyfoedion - hyd yn oed y rhai hynny a oedd yn debyg iddynt o ran arddull - nodweddir y rhan fwyaf o’u cerddoriaeth a’u geiriau gan sentimentaliaeth bur. Fel perfformwyr, nid oedd ganddynt fawr ddim i’w ddweud wrth ganu protest y cyfnod. Edmygwyd eu harmonïau clir a soniarus, ac alawon cofiadwy baledi Tony Jones, gan lawer.

Perfformiodd y ddau yn yr ŵyl bop Gymraeg gyntaf, Pinaclau Pop, ym Mhontrhydfendigaid ym Mehefin 1968. Erbyn diwedd yr haf hwnnw roedd eu perfformiadau wedi dod i sylw Josiah Jones, perchennog label Cambrian. Rhyddhawyd eu EP gyntaf, Un, Dau, Tri, ym Medi 1968. Bu’n eithriadol o lwyddiannus, gan ddod i frig Deg Uchaf Y Cymro mewn llai na phythefnos. Arhosodd yno am ddeg wythnos, ac aros wedyn ymhlith y pump uchaf am dair wythnos ar ddeg ychwanegol, camp unigryw ar y pryd. Yn Rhagfyr 1968 daeth EP arall yr un mor llwyddiannus, sef Caffi Gaerwen. Erbyn diwedd 1968 roedd y ddwy record wedi gwerthu cyfanswm o 76,000 o gopïau.

Cadarnhaodd y ddwy EP safle’r ddeuawd ar frig y byd pop Cymraeg. Daeth cydnabyddiaeth bellach o’u statws pan ffurfiwyd clwb dilynwyr yn Ebrill 1969, Cornel Tony ac Aloma, y clwb cyntaf o’i fath yn hanes artistiaid y byd pop Cymraeg. Ym Mehefin yr un flwyddyn darlledwyd y rhaglen gyntaf yn y gyfres Tony ac Aloma a gyflwynwyd ganddynt ar Deledu Harlech. Rhyddhawyd EP rhif 1 arall, Dim Ond Ti a Mi, yn ystod yr un mis.

Serch hynny, erbyn 1970 roedd y ddau wedi dechrau edrych y tu hwnt i Gymru am gyfleoedd ac wedi dechrau diflasu ar gyflwr gwael y rhan fwyaf o stiwdios Cymreig y cyfnod. Trafodwyd y posibilrwydd o fynd i Lundain i wneud ‘record dechnegol dda’, a gwyntyllwyd y syniad o deithio ledled Ewrop.

Fodd bynnag, cyn bo hir daeth yn amlwg fod y ddau yn awyddus i ddilyn llwybrau gwahanol. Er i’w LP gyntaf, Tony ac Aloma (1972), werthu’n dda, roedd eu poblogrwydd fymryn ar drai a gwahanodd y ddau ym Mehefin 1972. Bu Aloma yn canu gyda’r Hennessys am gyfnod, ac aeth Tony ati i ffurfio band roc ysgafn Y Tir Newydd. Bu aduniad y ddau yn 1974 yn gymharol lwyddiannus. Sefydlwyd label Gwawr ganddynt, ac aeth EP a ryddhawyd arno i frig y siartiau Cymreig. Mae’r ddeuawd yn parhau i berfformio’n achlysurol.

Diau fod caneuon Tony ac Aloma wedi dyddio braidd o’u cymharu â rhai o’u cyfoedion. Fodd bynnag, anodd gwadu pwysigrwydd eu hapêl i gynulleidfaoedd Cymraeg mewn cyfnod pan oedd y cystadlu am sylw yn y byd pop yn frwd. Bu eu hagwedd broffesiynol at berfformio a’u hymroddiad i waith hefyd yn fodd o greu safonau uwch yn hanes cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg.

Craig Owen Jones

Disgyddiaeth

  • Caffi Gaerwen [EP] (Cambrian CEP427, 1968)
  • Mae Geni Gariad [EP] (Cambrian CEP425, 1968)
  • Tony ac Aloma [EP] (Cambrian CEP440, 1969)
  • Oes Mae Na Le [EP] (Cambrian CEP466, 1970)
  • Diolch i Ti [EP] (Cambrian CEP462, 1970)
  • Tony ac Aloma [EP] (Cambrian CEP473, 1971)
  • Tony ac Aloma (Cambrian SCLP602, 1971)
  • Tony ac Aloma [EP] (Gwawr, GWAWR101, 1974)
  • Clychau Nadolig [EP] (Gwawr, GWAWR103, 1974)
  • Tipyn o Gân (Gwawr GWA105D, 1976)
  • Dim Wedi Newid Dim (Gwawr GWA109C, 1984)
  • Ar y Teli (Gwawr GWA309R, 1985)

Casgliadau:

  • Goreuon (Sain SCD2042, 1993)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.