Trioedd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ffurf luosog y rhifolyn 'tri' yw 'trioedd' (yn 1803 y daw'r gair 'triawd', 'trio' i'r fei gyntaf). Tuedd heb ei chyfyngu i'r gwledydd Celtaidd yw i roi lle blaenllaw i rifau perffaith na ellir eu rhannu, megis 3 a 7, ac mae grwpiau o dri neu saith yn gyffredin drwy'r byd, o Saith o Samurai y cyfarwyddwr ffilm Kurosawa yn Siapan i Tri Mwsgedwr yr awdur Ffrangeg, Alexandre Dumas. Ac mae duwiau triphlyg a thrindodau yn gyffredin ym myd crefydd a mytholeg.

Yn y cyd-destun Cymreig, mae'r term 'trioedd' yn cyfeirio fel arfer at destunau canoloesol sy'n trefnu ac yn crynhoi gwahanol fathau o wybodaeth draddodiadol. Y trioedd enwocaf yw'r rhai hynny o'r 12g. ymlaen a olygwyd gan Rachel Bromwich yn Trioedd Ynys Prydein ac sy'n dosbarthu cymeriadau a digwyddiadau chwedl a hanes. Enghraifft yw triawd 52, sef 'Tri Goruchel Garcharor Ynys Brydain: Llŷr Llediaith a fu gan Euroswydd yng ngharchar; a'r ail, Mabon ap Modron; a'r trydydd, Gwair fab Gweirioedd'. Yn yr achos yma, mae modd cysylltu'r cymeriadau â thestunau eraill — Llŷr yw tad Branwen a Bendigeidfran yn stori Branwen ferch Llŷr, yr ail o geinciau'r Mabinogi lle enwir Euroswydd hefyd fel tad Nisien ac Efnisien. Mae Mabon fab Modron yn garcharor yng Nghaerloyw yn stori Culhwch ac Olwen; ac mae disgrifiad dirdynnol o Gwair yng ngharchar yn y gerdd Preiddiau Annwfn yn Llyfr Taliesin. Ond mae'r trioedd yn dyst i storïau ac episodau na wyddom amdanynt fel arall: yn yr enghraifft yma, dywedir i Lŷr fod yng ngharchar gydag Euroswydd, gwybodaeth nad yw ar gael mewn testun arall.

Roedd Rachel Bromwich o'r farn fod y trioedd hyn yn fynegai i'r traddodiad brodorol ac i wybodaeth ddiweddarach a ddaethai i mewn o ffynonellau eraill. Tybiai hi, ar sail cyfeiriadau yn y farddoniaeth at fersiynau o'r trioedd, mai at ddefnydd beirdd yn bennaf y lluniwyd y rhestrau hyn. Ond gwelwyd yr un ysfa i greu trioedd wrth i'r Cymry canoloesol drafod ac efallai addysgu mathau eraill o wybodaeth draddodiadol, dechnegol: yn y llyfrau cyfraith, er enghraifft, yng ngramadegau'r beirdd (y Trioedd Cerdd), ac mewn testunau meddygol.

Marged Haycock

Llyfryddiaeth

Bromwich, R. (2014) (gol.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, pedwerydd golygiad).

Edwards, H. M. (1995), 'Y Trioedd Serch', Dwned, 1, 25-39.

Kelly, F. (2004), 'Thinking in Threes: the Triad in Early Irish Literature', Proceedings of the British Academy, 125, 1-18.

Owen, M. E. (1972), 'Y Trioedd Arbennig', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 24, 434-50.

Rees, A. a Rees, B. (1961), Celtic Heritage: Ancient Tradition in Ireland and Wales (London: Thames and Hudson).

Roberts, S. E. (2007), The Legal Triads of Medieval Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Williams, G. J. a Jones, E. J. (goln) (1934), Gramadegau'r Penceirddiaid (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.