Villanelle

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Gair Ffrangeg, o’r Eidaleg villanella cân wledig, o villano (gwerinwr, peasant).

Mabwysiadwyd y ffurff gan feirdd Ffrangeg yr unfed ganrif ar bymtheg, sef cyfnod pan oedd dylanwad yr Eidal yn gryf ar lenyddiaeth Ffrainc (meddylier am feirdd y Pléiade). Bryd hynny yr hyn a’i nodweddai oedd ei thema wledig a’i defnydd o gytgan. Nid oedd iddi reolau caeth, er bod cyfres o benillion wyth llinell gyda chytgan o linell neu ddwy yn cloi pob un fel arfer. Safonwyd y ffurf ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, pan ddefnyddiwyd cerdd Jean Passerat (1534-1602), ‘J’ay perdu ma tourterelle’ (Collais fy ngholomen Fair), fel model. Defnyddiodd Passerat gyfres o dribannau ar ddwy odl yn unig, oedd yn ailadrodd llinellau un a thri o’r triban cyntaf (yn eu tro) ar ddiwedd y tribannau dilynol. Ymddangosai’r ddwy linell a ailadroddwyd unwaith yn rhagor gyda’i gilydd y tro hwn i gloi’r gerdd gyda phennill pedair llinell. Cyfanswm y llinellau oedd 19.

Adfywiwyd y ffurf yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym marddoniaeth Ffrangeg ystyriwyd y villanelle yn fath o bennill, a doedd dim ots sawl pennill a ddefnyddid i greu cerdd. Canodd Théodore de Banville glodydd y ffurf yn ei Petit Traité de poésie française (Llawlyfr bach ar farddoniaeth Ffrangeg) (1872), ac roedd yn boblogaidd yn gyffredinol gyda beirdd y Parnasse. Ym marddoniaeth Saesneg fe’i hystyriwyd yn ffurf ddigyfenwid (h.y. ni ellid amrywio nifer y llinellau). Roedd yn ffurf boblogaidd (meddylier am Hardy a Wilde), a oedd yn dal i gael ei defnyddio ar gyfer pynciau gwledig, ond a ddefnyddiwyd hefyd ar gyfer vers de société (barddoniaeth ysgafn). Parhaoedd yn boblogaidd yn yr ugeinfed ganrif. Yng Nghymru defnyddiwyd y ffurf gan Dylan Thomas yn ei gerdd enwog, ‘Do not go Gentle into that Good Night’.

Heather Williams

Llyfryddiaeth

Preminger, A., a Brogan T.V.F. (goln) (1993), The New Princeton Encyclopedia of Poetry and Poetics (Princeton, New Jersey: Princeton University Press).

Peter France, P. (gol.) (1995), The Oxford Companion to Literature in French (Oxford: Clarendon Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.