Wal sych

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Enwau eraill am hyn yw “bwrdd wal Gypswm” [Gypsum wallboard neu GWB] a “cynfas craig” [sheetrock] neu fwrdd plastr [plasterboard].

Panel ydyw sy'n cael ei wneud mewn ffatri gan ddefnyddio plastr gypswm sydd wedi ei amgáu mewn cardboard tenau. Gan amlaf mae ganddynt drwch o 0.5 modfedd a maint o 4tr x 8tr neu 4tr x 12tr. Mae’r paneli yn cael eu gosod o fewn ffrâm gyda naill ai hoelion neu sgriwiau ac wedyn bydd yr uniadau’n cael eu gorchuddio â thâp ac wedi hynny gyda gorchudd cyfansoddyn selio uniadau [joint compound].

Defnyddir math gwahanol o baneli sef wal sych “bwrdd gwyrdd” yn enwedig lle mae angen gwrthsefyll lefelau uwch o leithder, yn enwedig mewn ystafelloedd ymolchi a llefydd “gwlyb” eraill.

Owain Llywelyn

Llyfryddiaeth

https://www.designingbuildings.co.uk/wiki/Drywall_construction

“Barry’s Advanced Building Construction”, Stephen Emmitt a Christopher Gorse, Blackwell Publishing, ail argraffiad, tudalennau 298-299



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.