Walters, Gareth (1928-2012)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed y cyfansoddwr Gareth Walters yn Abertawe. Bu cerddoriaeth yn rhan o’i fywyd er pan oedd yn ifanc. Astudiodd yn yr Academi Frenhinol yn Llundain o 1949 hyd 1952 ac yna yn y Conservatoire Cenedlaethol ym Mharis gyda Jean Rivier (1896-1987) ac Olivier Messiaen (1908-92). Bu hefyd yn astudio am gyfnod yn yr Eidal cyn treulio amser yn dysgu yn yr Academi Frenhinol ac yn Ysgol Gerddoriaeth Yehudi Menuhin. Rhwng 1956 ac 1988 bu’n gynhyrchydd gyda’r BBC ac ym mlynyddoedd ei ymddeoliad bu’n gyfrifol, a hynny yn ardal ei gynefin, am sefydlu Gŵyl Gŵyr a ganolbwyntiai ar gerddoriaeth siambr.

Mewn cyfnod pan aeth nifer o’i gyfoeswyr (megis Daniel Jones, Alun Hoddinott a William Mathias) ati i weithio gyda ffurfiau estynedig fel y symffoni, yr opera a’r concerto, denwyd Walters gan ffurfiau bychain a miniaturau telynegol. Un o’i weithiau mwyaf poblogaidd yw Divertimento for Strings (1960), a recordiwyd yn yr 1970au gan Gerddorfa Siambr Lloegr dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru. Clywir dylanwad argraffiadaeth Ffrengig yn nefnydd cynnil Walters o liwiau a gweadau offerynnol. Bu hefyd yn doreithiog ym maes cerddoriaeth i’r gitâr, a bu’n cyfansoddi’n aml ar gyfer y cyfryngau, wrth gyfrannu cerddoriaeth gefndir ar gyfer nifer helaeth o raglenni radio, teledu a ffilm.

Yn ôl Martin Anderson, roedd cerddoriaeth Walters yn adlewyrchu ei bersonoliaeth addfwyn: yn dawel unigolyddol gyda chyfuniad o hiwmor tyner a chadernid mewnol (Anderson 2012).

Geraint Lewis a Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Song of the Heart (Toccata Classics TOCC0090, 2008)

Llyfryddiaeth

  • Martin Anderson, ‘Gareth Walters: Welsh composer of fastidious craftsmanship who became an inspirational teacher,’ The Independent (26 Gorffennaf 2012)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.