Williams, J. Lloyd (1854-1945)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddor, botanegydd, ysgolhaig, cenedlaetholwr a phrif ladmerydd cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yn ystod hanner cyntaf yr 20g.

Ganed John Lloyd Williams ym Mhlas Isaf, Llanrwst. Derbyniodd hyfforddiant fel athro yn y Coleg Normal, Bangor (1873-75) ac fe’i penodwyd yn brifathro Ysgol Garndolbenmaen yn 1875 lle bu’n weithgar fel arweinydd corau a hyfforddwr. Mae ei gyfrolau hunangofiannol, Atgofion Tri Chwarter Canrif, yn edrych yn ôl ar y cyfnod cynnar hwn ac yn amlygu ei ddiddordeb ysol mewn cerddoriaeth a byd natur, dau faes a barhaodd i fynd â’i fryd ar hyd ei oes.

Yn yr 1890au dilynodd gwrs gradd mewn botaneg yn y Coleg Brenhinol Gwyddonol yn Llundain cyn dychwelyd i’w gynefin a chael ei benodi’n ddarlithydd yn yr Adran Fotaneg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1897. Yn ddiweddarach rhwng 1915 ac 1926, bu’n Athro botaneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Fe’i hystyrid yn un o brif fotanegwyr ei gyfnod oherwydd ei arbenigedd ym myd planhigion prin yn Eryri (yn enwedig y Trichomanes speciosum a’r Lloydia serotina) a’i waith arloesol ar wymon y môr, a derbyniodd radd doethuriaeth am ei lafur yn y maes gan Brifysgol Cymru yn 1908.

Er mai dilyn gyrfa broffesiynol fel gwyddonydd a wnaeth J. Lloyd Williams, bu cerddoriaeth yn rhan anhepgor o’i fywyd a bu ei gyfraniad i fyd canu gwerin Cymru yn bellgyrhaeddol yn sgil ei athroniaeth gadarn a’i weledigaeth arloesol. Yn fuan wedi iddo ymuno â staff y Brifysgol ym Mangor fe’i penodwyd yn arweinydd y Gymdeithas Gorawl ac yn ddiweddarach yn gyfarwyddwr cerdd y sefydliad. Perfformiwyd un o’i chwaraeganau cerddorol, Aelwyd Angharad, gan y myfyrwyr ym mis Mawrth 1901. Nid yw’n gampwaith cerddorol ond yr oedd i’r cyfanwaith hwn arwyddocâd diwylliannol gan mai byrdwn ei neges oedd pwysleisio’r angen am deyrngarwch i’r iaith Gymraeg ac i draddodiadau Cymreig a chodi ymwybyddiaeth ohonynt. Bu’r gwaith yn boblogaidd ymysg cynulleidfaoedd a chwmnïau perfformio ar hyd a lled Cymru ar droad yr 20g.

Chwaraeodd Lloyd Williams ran allweddol yn yr ymgyrch i geisio Cymreigio seremonïau a pherfformiadau cyhoeddus y Brifysgol ym Mangor, ac am y tro cyntaf cafwyd datganiadau o alawon gwerin Cymreig ar lwyfan cyhoeddus. Yn dilyn hyn gwawriodd ymwybyddiaeth newydd arno o werth ac apêl yr alawon gwerin. Fe’i hystyrid yn un o’r casglyddion gorau yn hanes cynnar Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a thrwy ei sêl a’i eiddgarwch ysbrydolwyd eraill i fynd ati i gasglu alawon yn yr un modd.

Cywain alawon gwerin a’u poblogeiddio oedd prif amcan cymdeithas Y Canorion a sefydlwyd ganddo ym Mangor oddeutu 1906/7. Cangen o Gymdeithas Gorawl y Brifysgol oeddynt, a dychwelodd yr aelodau, tua 19 mewn nifer, i’w broydd genedigol i gasglu a chofnodi alawon traddodiadol ac yna’u perfformio fel trefniannau tri a phedwar llais o waith Lloyd Williams. Daeth galw am ei wasanaeth fel trefnydd yn sgil y diddordeb cynyddol mewn perfformio’r alawon gwerin ac yn wyneb diffyg deunyddiau gan gyfansoddwyr proffesiynol y cyfnod.

Er mor rhwystredig y teimlai fel cyfansoddwr ac er mai prin oedd yr addysg gerddorol ffurfiol a gawsai, bu’n gyfrifol am drefnu degau o alawon, megis ‘Tra Bo Dau’ a ‘Ffarwel i Blwy Llangower’. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o Sixteen Welsh Melodies, sy’n gyfuniad o alawon telyn ac alawon gwerin wedi’u trefnu ar gyfer unawdydd a chyfeiliant piano, a chyfrolau o drefniannau dau a thri llais ar gyfer ysgolion sef Alawon Gwerin Cymru a Hwiangerddi Cymraeg, a’r cyfan yn gyfrwng i boblogeiddio’r alawon traddodiadol.

Cyflwynwyd darlith arwyddocaol ganddo yn dwyn y teitl Welsh National Melodies and Folk-Song gerbron Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain ym mis Ionawr 1908; bu’r digwyddiad yn garreg filltir bwysig yn yr ymdrech i ddeffro’r ymwybyddiaeth o gerddoriaeth werin Cymru ac yn sail i weithgarwch cynnar Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Dyma’r ymgais gyntaf i ddosbarthu’r alawon a hynny mewn gwyddor wyddonol, ond agor y maes yn unig a wnaethpwyd yma a phwysleisia Lloyd Williams yr angen i ddadansoddi’r alawon, cyflawni astudiaeth gymharol ohonynt a darganfod eu gwir nodweddion, gyda’r bwriad o fraenaru’r tir ar gyfer myfyrwyr ymchwil y dyfodol. Ei obaith mawr oedd gweld sefydlu ysgol arbennig i astudio cerddoriaeth Gymreig er mwyn sicrhau bod cerddorion a chyfansoddwyr yn cael eu trwytho yn y traddodiadau cynhenid, ac y byddai hynny maes o law yn dwyn sylw rhyng-genedlaethol i gerddoriaeth Gymreig.

Bu’r elfen addysgol, bedagogaidd hon yn rhan allweddol o’i fywyd. Roedd yn ddarlithydd ysbrydoledig a charismataidd, a thraethai gyda brwdfrydedd ac awch. Amlygwyd ei gariad tuag at Gymru a’i thraddodiadau yn ei anerchiadau, mewn ysgolion haf, y mynych ddosbarthiadau nos yn ogystal â’r llu o sgyrsiau radio a gyflwynodd, a gellir honni mai’r gwaith cenhadol hwn dros gerddoriaeth Gymreig oedd un o’i brif gyfraniadau at waith y Gymdeithas Alawon Gwerin.

Roedd y genhadaeth addysgol yn amlwg hefyd yn ei waith fel golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru (1909-41) a’r Cerddor (1931-9). Darparu deunydd ar gyfer ymchwil pellach i faes cerddoriaeth werin oedd ei nod fel golygydd. Gosododd linyn mesur beirniadol dros yr holl alawon a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn gan sicrhau na chyhoeddid yr un alaw oni bai fod ganddo dystiolaeth bendant ei bod yn tarddu o’r traddodiad llafar. Defnyddiodd Y Cerddor fel cyfrwng i geisio codi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth werin ac er bod gwrthdaro mynych rhyngddo a cherddorion proffesiynol Cymru, llwyddodd i ddwyn hygrededd a sylw i’r maes ymysg y werin Gymreig ac ysgolheigion fel ei gilydd.

Mae’r erthyglau a ymddangosodd yn y ddau gylchgrawn hyn yn brawf o wybodaeth ysgolheigaidd Lloyd Williams. Ymchwiliodd yn drwyadl i’r maes ac ystyrir mai ef oedd yr arbenigwr pennaf ym maes cerddoriaeth Gymreig yn ystod hanner cyntaf yr 20g. (gw. hefyd Hanesyddiaeth, Ysgolheictod a Cherddoreg). Cyhoeddodd gyfrol o’r enw Y Tri Thelynor, sy’n olrhain hanes John Parry (Rhiwabon), Ifan William ac Edward Jones (Llandderfel), ac ysgrifennodd lu o erthyglau yn ymdrin â chanu gwerin.

Bu farw, yn 91 mlwydd oed, yng Nghaerfaddon, cyn cyhoeddi ei gyfrol ar hanes cerddoriaeth yng Nghymru. Roedd yn Gymro i’r carn, yn gymwynaswr swil ond argyhoeddedig, yn ysgolhaig o’r radd flaenaf ond yn un â blas y pridd ar ei weithgarwch. Llafuriodd hyd eithaf ei allu er lles y traddodiad cerddorol cynhenid a derbyniodd radd doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1936 am ei gyfraniad chwyldroadol i’r maes.

Elen Wyn Keen

Llyfryddiaeth

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Casgliad J. Lloyd Williams (GB 0210 JLLW)
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Nodiadau Ymchwil Dr Meredydd Evans ar bapurau Dr J. Lloyd Williams; (NLW Facs 973)
  • J. Lloyd Williams ac Arthur Somervell, Sixteen Welsh Melodies (Llundain, 1907 ac 1909)
  • J. Lloyd Williams (gol.), Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Cyfrolau 1–3 (1909–41)
  • J. Lloyd Williams, ‘Welsh National Melodies and Folk-Song’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, Sesiwn 1907–8 (1909)
  • ———, Ceinion y Canorion (Bangor, c.1909)
  • J. Lloyd Williams a Lewis D. Jones, Aelwyd Angharad, neu Hwyrnos Lawen Llwyngwern, Chwareugan yn dangos dull ar arferion bywyd gwledig Cymru Fu (Bangor, c.1909)
  • ———, Alawon gwerin Cymru/Welsh folk songs: arranged for schools (Caerdydd, 1920, 1923, 1924)
  • J. Lloyd Williams, Hwiangerddi Cymraeg (Wrecsam a Chaerdydd, 1928)
  • ———, Hen Geinciau Cymru (Pwllheli, 1931)
  • ——— (gol.), Y Cerddor (1931–1939)
  • ———, ‘Tri Chwarter Canrif o Atgofion Cerddorol’, Y Cerddor, 8 (1938), 1–10
  • ———, Atgofion Tri Chwarter Canrif, I–IV (Dinbych 1941, 1942, 1944; Llundain, 1945)
  • ———, Y Tri Thelynor – Arloeswyr Cerddorol Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif (Llundain, 1945)
  • J. Lloyd Williams a Lewis D. Jones, Cadifor, Tywysog Cymru, Llyfr Geiriau (Bangor, d.d.)
  • Daniel Huws, ‘Dr J. Lloyd Williams a Cherddoriaeth Draddodiadol’, Canu Gwerin, 6 (1983)
  • Elen Wyn Jones, Ac yna dyddiau Bangor, ni bu ac ni bydd eu tebyg: Golwg ar gyfraniad yr Athro J. Lloyd Williams i fyd canu gwerin Cymru rhwng 1897 a 1914 (traethawd MPhil, Prifysgol Bangor, 1999)
  • ———, ‘Camp Cerddor a Gallu Gwyddonydd, J. Lloyd Williams a’i Gylchgrawn’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 5 (2002), 135–49
  • Dewi Jones, Naturiaethwr Mawr Môr a Mynydd, Bywyd a Gwaith J. Lloyd Williams (Penygroes, 2003)
  • Elen Wyn Keen, ‘J. Lloyd Williams: Y Cyfarwyddwr Cerdd’, Canu Gwerin, 27 (2004)
  • Gwenan Mair Lockley, ‘Y proffwyd yn ei gerbyd aur: Yr Athro J. Lloyd Williams a’i weithgarwch cerddorol yn Aberystwyth rhwng 1914–1928’ (traethawd BA Prifysgol Bangor, 2004)
  • Leila Mair Salisbury, ‘Y Cerddor bytholwyrdd o Blas Isa: Golwg ar gyfraniad yr Athro J. Lloyd Williams i faes cerddoriaeth draddodiadol Cymru o 1927 hyd at 1945’ (traethawd BA Prifysgol Bangor, 2006)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.